'Tristwch cau capel Cymraeg Birmingham wedi blynyddoedd hapus'

Capel Birmingham
Disgrifiad o’r llun,

Cafod capel Bethel Birmingham ei agor yn 1968

GanSara Down-Roberts
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'n ddiwedd cyfnod yn Birmingham wedi i gapel Cymraeg Bethel yn y ddinas gau ei ddrysau am y tro olaf ddechrau Chwefror.

Yn 1968 y cafodd y capel ei agor wedi i ddau gapel Cymraeg arall - Suffolk Street a Hockley Hill - gael eu dymchwel.

Ddiwedd 2024 roedd y swyddogion yn hyderus fod modd denu wynebau newydd i'w plith ond nid felly y bu ac wrth i'r gynulleidfa heneiddio ac i nifer ddychwelyd i Gymru ychydig ychydig o'r 17 aelod oedd yn gallu mynd i'r capel yn rheolaidd.

Rhai o'r dorf ar y diwrnod cafodd y capel newydd ei agor yn 1968Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r dorf ar y diwrnod cafodd y capel newydd ei agor yn 1968

"Mae'n ddiwedd cyfnod ac yn dristwch bod addoli drwy gyfrwng y Gymraeg yn Birmingham yn dod i ben," medd ysgrifenyddes capel Bethel, Ellen Whitehouse, wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg Radio Cymru ddydd Sul.

Dywed y bydd hi ac eraill bellach yn mynd i gapel Coventry - capel Cymraeg arall ar draws y ffin.

"Roedd gwasanaeth cau'r capel yn brofiad digalon iawn," ychwanegodd.

"Roeddwn i'n meddwl y buaswn yn beichio crio drwy'r gwasanaeth ond rywsut mi ddaru'r gweinidog Robert Parry gyflwyno neges bositif gan bwysleisio mai diwedd pennod yw hyn.

"Ac ydynt maen nhw wedi bod yn flynyddoedd hapus. Dwi wedi cael fy nghodi yng nghapeli Cymraeg Birmingham, mae fy mhlant i wedi bod yn aelodau yn y capel yma ac ro'dd fy rhieni yma.

"Dyna yw fy mywyd i wedi bod ac mae wedi rhoi'r cyfle i mi siarad yr iaith Gymraeg.

"Rhaid i ni dderbyn nad yw pobl yn mynd i gapeli yng Nghymru ac yn yr un modd dyw pobl ifanc ddim yn dod yma - ar un adeg roedd pethau yn dra wahanol wrth i athrawon o Gymru ddod yma i ddysgu.

"Mae'n gapel hynod o hardd a phwrpasol ond rhaid derbyn bod y bennod hon yn ein bywyd wedi dod i ben - a'r pnawn ma fyddai ac ambell un arall yn mynd i gapel Coventry."

Ellen
Disgrifiad o’r llun,

Ellen Whitehouse

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae 20 o gapeli yr Eglwys Bresbyteraidd wedi cau - yn eu plith capel Cymraeg Altrincham ger Manceinion a chapel Seion Croesoswallt.

Adeg cau capel Altrincham dywedodd Nan Wyn Powell-Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eglwys Bresbyteraidd, fod "capeli Cymraeg yn Lloegr yn prinhau, ond mae eu cyfraniad nhw oll yn hynod o bwysig".

"Ry'n yn hynod o ddiolchgar i bawb sy'n cynnal gweithgareddau yn y capeli sydd ar y ffin ac yn ninasoedd Lerpwl, Manceinion, Coventry a Llundain - yn fanno wrth gwrs mae capeli Y Drindod yn Cockfosters, Jewin, Ealing, Moreia Leytonstone, Sutton a Clapham, ynghyd ag eglwysi sy'n perthyn i enwadau eraill wrth gwrs.

"Yn ogystal â bod yn sefydliadau crefyddol mae'r capeli yn gyfle hefyd i gymdeithasu yn Gymraeg."

Yn fwy diweddar dywedodd bod rhaid newid y ffordd mae eglwysi'n cael eu rheoli yn fuan neu fe fydd hi'n rhy hwyr.

11,203 o aelodau bellach sydd yng nghapeli Cymraeg a Saesneg yr Eglwys Bresbyteraidd, a dim ond 275 sydd o dan 25 oed.

Nid oes gweinidog mewn dros 50% o eglwysi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now