Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Gwneud halwynauGwneud halwyn â bas/metel/carbonad

Mae asidau’n adweithio â metelau, basau a charbonadau i gynhyrchu halwynau. Niwtralu yw’r adwaith rhwng asid a bas.

Part of CemegAsidau, basau a halwynau

Gwneud halwyn â bas/metel/carbonad

Mae metelau, basau, rhai hydrocsidau metel a rhai carbonadau metel, yn anhydawdd mewn dŵr.

Rwyt ti’n ychwanegu’r bas/carbonad/metel at yr asid cynnes nes does dim mwy’n hydoddi ac mae ychydig o’r hydoddyn anhydawdd dros ben – ‘gormodedd’ yw hyn.

Ar gyfer metelau a charbonadau metel, mae’r adwaith yn stopio hisian i roi arwydd arall ei fod wedi gorffen. Rwyt ti’n hidlo’r cymysgedd i gael gwared ar y gormodedd bas/carbonad/metel i gael yr hydoddiant halwyn pur.

Mae’r hydoddiant pur yn gallu diferu drwy’r papur hidlo i’r bicer oddi tano, gan adael y solidau anhydawdd ar ôl.

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 3, Mewn un bicer, mae cymysgedd o ormodedd o'r bas a hydoddiant halwyn. Mewn bicer arall, mae twndis a phapur hidlo ynddo., 1. Y broses hidlo

Anweddu

I gael yr halwyn pur o’r hydoddiant, mae angen cael gwared â rhywfaint o’r dŵr. Rydyn ni’n defnyddio dull o’r enw .

Gallwn ni anweddu rhywfaint o’r dŵr drwy ddefnyddio llosgydd Bunsen (fel sydd i’w weld isod).

Ffordd arall o anweddu rhywfaint o’r dŵr yw drwy roi’r hydoddiant yn agos at wresogydd/sil ffenestr. Bydd hyn yn anweddu’r dŵr yn llawer arafach ac yn ffurfio grisialau mwy.

Cynhesu’r hydoddiant halwyn i anweddu'r dŵr. Byddi di’n cael grisialau mwy drwy anweddu’r dŵr yn araf.

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 3, Rhoi hydoddiant mewn basn anweddu a'i wresogi â llosgydd Bunsen., Cael yr halwyn o’r hydoddiant 1. Rhoi hydoddiant mewn dysgl anweddu a’i wresogi â llosgydd Bunsen
Trending Now