Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Gwneud halwynauGwneud halwyn ag alcali

Mae asidau’n adweithio â metelau, basau a charbonadau i gynhyrchu halwynau. Niwtralu yw’r adwaith rhwng asid a bas.

Part of CemegAsidau, basau a halwynau

Gwneud halwyn ag alcali

I gynhyrchu halwyn wrth adweithio ag , rydyn ni’n defnyddio dull . Bydd hyn yn cynhyrchu halwyn hydawdd.

Defnyddiau

Mae’r cyfarpar sydd ei angen yn cynnwys:

  • pibed i fesur penodol o asid neu alcali yn fanwl gywir
  • llanwydd pibed i ddefnyddio’r bibed yn ddiogel
  • fflasg gonigol i ddal yr hylif o’r bibed
  • bwred i ychwanegu symiau bach wedi’u mesur o un adweithydd at yr adweithydd arall yn y fflasg gonigol
Cyfarpar sydd ei angen i ditradu: bwred, pibed, fflasg gonigol a llanwydd pibed.
Figure caption,
Cyfarpar sydd ei angen i gynnal titradiad

Dull

Dyma amlinelliad o’r dull i gynnal titradiad lle caiff asid ei ychwanegu at alcali.

  1. Defnyddio’r bibed a llanwydd pibed i roi 25 cm3 o alcali mewn fflasg gonigol lân.
  2. Ychwanegu rhai diferion o a rhoi’r fflasg gonigol ar deilsen wen.
  3. Llenwi’r fwred ag asid a nodi’r cyfaint cychwynnol.
  4. Ychwanegu’r asid o’r fwred yn araf at yr alcali yn y fflasg gonigol, gan ei chwyrlïo hi i gymysgu’r hydoddiant.
  5. Stopio ychwanegu’r asid ar ôl cyrraedd y diweddbwynt (pan mae’r newid lliw priodol yn digwydd i’r dangosydd). Nodi’r darlleniad cyfaint terfynol.
  6. Ailadrodd camau un i bump gan ddefnyddio’r un cyfaint o asid o’r fwred heb ddefnyddio dangosydd. Yna, gellir anweddu’r hydoddiant sydd wedi ffurfio i gael grisialau pur o’r halwyn.

Mae’r un dull yn gweithio i ychwanegu alcali at asid – dim ond amnewid yr hylifau sy’n mynd i mewn i’r fflasg gonigol a’r fwred.

Trending Now