Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Gwneud halwynauGwneud halwynau anhydawdd [TGAU Cemeg yn unig]

Mae asidau’n adweithio â metelau, basau a charbonadau i gynhyrchu halwynau. Niwtralu yw’r adwaith rhwng asid a bas.

Part of CemegAsidau, basau a halwynau

Gwneud halwynau anhydawdd [TGAU Cemeg yn unig]

I wneud halwyn , mae angen i ddau halwyn adweithio â’i gilydd mewn .

Mae’r tabl yn dangos halwynau hydawdd ac anhydawdd.

HydawddAnhydawdd
Pob nitradDim
Pob halwyn sodiwm, potasiwm ac amoniwm cyffredinDim
Y rhan fwyaf o sylffadau cyffredinCalsiwm sylffad a bariwm sylffad
Y rhan fwyaf o gloridau cyffredinArian clorid
Carbonadau lithiwm, sodiwm, potasiwm ac amoniwmY rhan fwyaf o garbonadau cyffredin
HydawddPob nitrad
AnhydawddDim
HydawddPob halwyn sodiwm, potasiwm ac amoniwm cyffredin
AnhydawddDim
HydawddY rhan fwyaf o sylffadau cyffredin
AnhydawddCalsiwm sylffad a bariwm sylffad
HydawddY rhan fwyaf o gloridau cyffredin
AnhydawddArian clorid
HydawddCarbonadau lithiwm, sodiwm, potasiwm ac amoniwm
AnhydawddY rhan fwyaf o garbonadau cyffredin

Gallwn ni weld o’r tabl bod arian clorid yn halwyn anhydawdd. Gallwn ni ei wneud drwy adweithio halwyn arian hydawdd â halwyn clorid hydawdd.

Mae arian nitrad a sodiwm clorid yn ddau halwyn hydawdd. Pan mae eu hydoddiannau’n cael eu cymysgu, mae sodiwm nitrad hydawdd ac arian clorid anhydawdd yn ffurfio.

arian nitrad + sodiwm clorid → sodiwm nitrad + arian clorid

AgNO3(dyfr) + NaCl(dyfr) → NaNO3(dyfr) + AgCl(s)

Dyma hafaliad ïonig y broses hon.

Ag+(dyfr) + Cl(dyfr) → AgCl(s)

Mae’r arian clorid yn ymddangos fel gronynnau bach iawn mewn yng nghymysgedd yr adwaith – dyma’r . Gallwn ni hidlo’r gwaddod, ei olchi â dŵr ar y papur hidlo, ac yna ei sychu mewn ffwrn.

Gallwn ni ddefnyddio adwaith tebyg i brofi am bresenoldeb ïonau sylffad. Mae cymysgu hydoddiant bariwm clorid (neu fariwm nitrad) â hydoddiant sy’n cynnwys ïonau sylffad yn ffurfio gwaddod gwyn.

MgSO4(dyfr) + BaCl2(dyfr) → BaSO4(s) + MgCl2(dyfr)

Dyma hafaliad ïonig y broses hon.

Ba2+(dyfr) + SO42–(dyfr) → BaSO4(s)

Trending Now