Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Prosesau afonydd – CBACDalgylchoedd afonydd

Mae symud o gwrs uchaf afon i’r cwrs isaf yn effeithio ar gyfraddau erydiad, trawsgludiad a dyddodiad. Mae hyn yn arwain at ddatblygu tirffurfiau bach a mawr.

Part of DaearyddiaethTirweddau a phrosesau ffisegol

Dalgylchoedd afonydd

Gall swm y dŵr sydd mewn afon amrywio dros gyfnod. Mae deall y yn ein helpu i ddeall sut a pham y mae swm y dŵr yn amrywio.

Dalgylch afon yw’r darn o dir o gwmpas yr afon sy’n cael ei ddraenio gan yr afon a’i .

  • gwahanfa ddŵr – y darn o dir uchel sy’n ffurfio ymylon dalgylch afon
  • tarddiad – man cychwyn afon
  • aber – y man lle mae afon yn cyrraedd y môr
  • cydlifiad – y man lle mae dwy afon yn ymuno â’i gilydd
  • llednant – afon neu nant fach sy’n ymuno ag afon fwy
  • sianel – y man lle mae’r afon yn llifo
Mae’r afon yn cychwyn yn ei tharddle, ac yn llifo i lawr y sianel i’r aber. Mae llednentydd yn llifo i’r sianeli mewn cydlifiadau. Ffin y gorlifdir yw’r wahanfa ddŵr.
Trending Now