Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Prosesau afonydd – CBACProffiliau afon

Mae symud o gwrs uchaf afon i’r cwrs isaf yn effeithio ar gyfraddau erydiad, trawsgludiad a dyddodiad. Mae hyn yn arwain at ddatblygu tirffurfiau bach a mawr.

Part of DaearyddiaethTirweddau a phrosesau ffisegol

Proffiliau afon

Hydbroffil

Mae hydbroffil yn dangos sut y mae’r afon yn newid yn ystod ei chwrs o’r (lle mae’n cychwyn) i’r (lle mae’n cyrraedd y môr).

Mae gan ran uchaf yr afon lwyth gwely mwy - yn fwy garw, ac mae mwy o gynnwrf a ffrithiant yno. Rhan isaf yr afon sydd â’r trawstoriad mwyaf, y radiws hydrolig mwyaf a’r cyflymder a’r arllwysiad mwyaf

Cwrs uchaf – dyma ble mae’r afon yn cychwyn ac fel arfer mae ar dir uchel. Mae gan yr afon mawr yn y cwrs uchaf, gan nad yw wedi cael ei dorri’n ddarnau llai drwy eto.

Cwrs isaf – yng nghwrs olaf yr afon mae’r tir yn llawer mwy gwastad. Gwaddod mân yw llwyth yr afon, gan fod erydiad wedi torri’r creigiau’n ddarnau llai.

Trawsbroffil

yw golwg o’r o un ochr i’r llall.

Mae sianel yr afon yn gul yn ei tharddle (A), yn lletach yn y canol (B) ac yn lletach eto yn yr aber (C).

A - wrth i’r afon lifo ar i lawr mae yn cynyddu. Mae’r sianel yn fas ac yn gul gan nad oes llawer o ddŵr ynddi.

B - wrth i’r afon lifo i’r cwrs canol, mae rhywfaint o erydiad fertigol, ond mwy o . O ganlyniad, mae’r sianel yn lletach ac yn ddyfnach.

C - yn y cwrs isaf mae llawer llai o erydiad ac mae dyddodiad yn cael mwy o ddylanwad. Ychydig o erydiad ochrol sy’n digwydd yma. Dyma ran letaf a dyfnaf y sianel.

Trending Now