Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Prosesau afonydd – CBACTrawsgludiad

Mae symud o gwrs uchaf afon i’r cwrs isaf yn effeithio ar gyfraddau erydiad, trawsgludiad a dyddodiad. Mae hyn yn arwain at ddatblygu tirffurfiau bach a mawr.

Part of DaearyddiaethTirweddau a phrosesau ffisegol

Trawsgludiad

Mae’r afon yn codi gwaddod ac yn ei gludo i lawr yr afon mewn gwahanol ffyrdd.

Mae pedwar math o drawsgludiad:

  • Rholiant – mae cerigos mawr, trwm yn cael eu rholio ar hyd gwely’r afon. Mae hyn yn fwyaf cyffredin ger afon, gan fod y llwyth yn fwy yma.
  • Neidiant – mae cerigos yn sboncio ar hyd gwely’r afon. Mae hyn yn fwyaf cyffredin ger y tarddiad.
  • Daliant – mae gwaddod ysgafnach yn cael ei ddal (cludo) yn y dŵr. Mae hyn yn fwyaf cyffredin ger yr afon.
  • Hydoddiant – cludo cemegion sydd wedi hydoddi. Mae hyn yn amrywio ar hyd yr afon gan ddibynnu a oes creigiau hydawdd o gwmpas.
Daliant yw gwaddod yn cael ei gludo yn yr afon. Rholiant yw cerigos yn rholio ar hyd gwely’r afon. Hydoddiant yw cemegion wedi eu hydoddi yn y dŵr. Neidiant yw cerigos yn sboncio ar hyd gwely’r afon.
Trending Now