Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Prosesau afonydd – CBACErydiad

Mae symud o gwrs uchaf afon i’r cwrs isaf yn effeithio ar gyfraddau erydiad, trawsgludiad a dyddodiad. Mae hyn yn arwain at ddatblygu tirffurfiau bach a mawr.

Part of DaearyddiaethTirweddau a phrosesau ffisegol

Erydiad

yw’r broses sy’n treulio gwely a glannau’r afon. Mae erydiad hefyd yn torri’r creigiau sy’n cael eu cludo gan yr afon yn ddarnau llai.

Mae pedwar math o erydiad:

  • Gweithred hydrolig - grym aruthrol y dŵr wrth iddo daro yn erbyn glannau’r afon yw hyn. Mae aer yn cael ei ddal yn y craciau yn y graig sy’n ffurfio glan a gwely’r afon, ac yn achosi i ddarnau o’r graig ddod yn rhydd.
  • Sgrafelliad - pan mae cerigos yn cael eu codi gan y dŵr sy’n llifo ac yn taro yn erbyn glan a gwely’r afon, gan eu treulio.
  • Athreuliad - pan mae creigiau sy’n cael eu cludo gan yr afon yn taro yn erbyn ei gilydd. Maen nhw’n torri’n ddarnau llai a mwy crwn.
  • Hydoddiant - pan mae’r dŵr yn hydoddi rhai mathau o greigiau, ee calchfaen.
Athreuliad, sgrafelliad, hydoddiant a gweithred hydrolig yw’r mathau o erydiad sy’n digwydd mewn afonydd.
Trending Now