Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Y bydCreu'r bydysawd

Mae gan Gristnogion wahanol safbwyntiau o ran deongliadau o greu'r bydysawd. Maen nhw'n credu bod y Ddaear yn perthyn i Dduw, ac mai stiwardiaid sy'n gyfrifol am ofalu amdani yw pobl.

Part of Astudiaethau CrefyddolBywyd a marwolaeth - Uned 1

Creu'r bydysawd

Yn ôl credoau Cristnogol, Duw greodd y bydysawd.

Mae dwy stori am sut creodd Duw y bydysawd, ac mae'r rhain yn nechrau llyfr yn y Beibl. Mae rhai Cristnogion yn meddwl am Genesis 1 a Genesis 2 fel dwy stori gwbl wahanol ag ystyr tebyg. Mae eraill yn gweld y ddwy bennod fel rhan o un stori barhaus.

Crynodeb o Genesis 1:

  • yn y dechreuad - Duw yn dechrau'r
  • y diwrnod cyntaf - creu golau
  • yr ail ddiwrnod - creu'r awyr
  • y trydydd diwrnod - creu tir sych, moroedd, planhigion a choed
  • y pedwerydd diwrnod - creu'r Haul, y Lleuad a'r sêr
  • y pumed diwrnod - creu creaduriaid sy'n byw yn y môr a chreaduriaid sy'n hedfan
  • y chweched diwrnod - creu anifeiliaid sy'n byw ar y tir ac yn olaf bodau dynol, ar ddelwedd o Dduw
  • erbyn diwrnod saith, roedd Duw wedi gorffen ei greu a gorffwysodd, sy'n gwneud y seithfed diwrnod yn ddiwrnod sanctaidd arbennig.
A visual representation of the days of Creation, from Genesis 1.

Yn Genesis 2, mae rhai pobl yn meddwl bod y stori'n mynd ymlaen i roi mwy o fanylion am greu bodau dynol, sy'n cael eu gweld fel dau unigolyn, sef Adda ac Efa.

Cafodd Adda ei wneud o "lwch y tir" pan anadlodd Duw fywyd i mewn iddo. Cafodd Efa ei chreu o un o asennau Adda i ddarparu cwmni a chymorth i Adda. Roedden nhw'n byw mewn man arbennig o'r enw Gardd Eden. Cafodd y ddau y dasg a'r cyfrifoldeb o ofalu am y lle roedd Duw wedi'i greu iddynt.

Dydy llawer o Gristnogion ddim yn credu bod holl fanylion y stori hon yn wir. Maen nhw'n credu mai Duw oedd yn gyfrifol am ddechrau'r bydysawd – ei fod wedi dechrau pethau a goruchwylio'r broses. Maen nhw hefyd yn gallu dysgu gwersi o'r stori am bwysigrwydd dynol ryw a'r cyfrifoldeb sydd gan ddynol ryw dros weddill y creu.

Byddai'r rhan fwyaf o Gristnogion yn derbyn mai neges ganolog Genesis 1 a 2, boed yn un stori neu ddwy, yw:

  • Duw wnaeth bopeth
  • gwnaeth Duw bopeth yn dda
  • gwnaeth Duw ddynol ryw yn uchafbwynt y creu

Mae Cristnogion ffwndamentalaidd yn credu, gan fod y Beibl yn dod yn uniongyrchol gan Dduw, bod rhaid i bopeth ynddo fod yn hollol wir. Mae unrhyw beth sy'n gwrth-ddweud y Beibl yn anghywir. Felly, i Gristnogion ffwndamentalaidd, dydy damcaniaeth y Glec Fawr ddim yn gywir.

Trending Now