Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Y bydAwdurdod

Mae gan Gristnogion wahanol safbwyntiau o ran deongliadau o greu'r bydysawd. Maen nhw'n credu bod y Ddaear yn perthyn i Dduw, ac mai stiwardiaid sy'n gyfrifol am ofalu amdani yw pobl.

Part of Astudiaethau CrefyddolBywyd a marwolaeth - Uned 1

Awdurdod

Mae'r term yn golygu rheoli natur. Dyma'r syniad bod bodau dynol yn gyfrifol am y byd ar ran Duw. Mae rhai Cristnogion sy'n dehongli'r Beibl yn llythrennol yn credu bod hyn yn rhoi'r hawl i fodau dynol ddefnyddio adnoddau naturiol y byd er eu budd eu hunain.

Yn Genesis 1:26-31, mae Duw yn creu bodau dynol ac yn roi'r Ddaear iddyn nhw ei gwarchod.

Bendithiodd Duw hwy a dweud, 'Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi; llywodraethwch ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ac ar bopeth byw sy'n ymlusgo ar y ddaear.'
— Genesis 1.28

Drwy roi llywodraeth dros y tir ac anifeiliaid i ddynolryw, mae Duw yn rhoi'r hawl i ddynolryw reoli bodau byw eraill.

Stiwardiaeth

Mae'r term yn golygu gofalu am y byd ar ran Duw. Mae Duw wedi creu byd lle mae gan fodau dynol swyddogaeth arbennig fel stiwardiaid y creu. Mae hyn yn golygu y dylen nhw ofalu am fuddiannau'r blaned a'r holl fywyd sydd arni. Mae'r gred hon yn ymwneud mwy â byw mewn cytgord â natur

Pan roddodd Duw lywodraeth i ddynolryw warchod y tir, rhoddodd cyfrifoldeb iddyn nhw hefyd. Cafodd pobl eu creu i fod yn stiwardiaid dros y tir, hynny yw:

  • i'w ddefnyddio
  • i'w warchod
  • i'w ddiogelu
Trending Now