Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Y bydDinasyddiaeth fyd-eang

Mae gan Gristnogion wahanol safbwyntiau o ran deongliadau o greu'r bydysawd. Maen nhw'n credu bod y Ddaear yn perthyn i Dduw, ac mai stiwardiaid sy'n gyfrifol am ofalu amdani yw pobl.

Part of Astudiaethau CrefyddolBywyd a marwolaeth - Uned 1

Dinasyddiaeth fyd-eang

Fel stiwardiaid sydd wedi eu creu gan Dduw, nid yw cyfrifoldeb dynolryw wedi ei gyfyngu i'r Ddaear gorfforol, ond i weddill dynolryw hefyd.

Mae dinasyddiaeth fyd-eang yn cyfeirio at weithio fel cymuned i ofalu am y byd. Mae'r rhan fwyaf o Gristnogion yn credu dylai pob bod dynol ei ystyried ei hun yn ddinesydd byd-eang a gweithio fel aelod o dîm i ofalu am y blaned. Gall pawb gymryd camau yn eu bywydau i sicrhau eu bod nhw'n ymddwyn fel dinasyddion byd-eang, er enghraifft:

  • codi sbwriel
  • diffodd y golau pan nad oes ei angen
  • cerdded os yw'n bosibl, yn lle mynd yn y car
Eto gwnaethost ef (y bod dynol) ychydig islaw duw a'i goroni â gogoniant ac anrhydedd. Rhoist iddo awdurdod ar waith dy ddwylo, a gosod popeth dan ei draed.
— Salm 8.5–6

Mae OXFAM yn diffinio dinesydd byd-eang fel rhywun sydd:

  • yn ymwybodol o'r byd ehangach ac sydd gyda synnwyr o'i rôl ei hun fel dinesydd byd-eang
  • yn parchu ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth
  • â dealltwriaeth o sut mae'r byd yn gweithio
  • yn gwylltio oherwydd anghyfiawnder cymdeithasol
  • yn cymryd rhan yn y gymuned ar ystod o lefelau, o'r lefel leol i'r lefel fyd-eang
  • yn fodlon gweithredu er mwyn gwneud y byd yn lle mwy cyfartal a chynaliadwy
  • yn cynmryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd

Question

Beth mae Cristnogion yn ei olygu wrth ddinasyddion byd-eang?

Trending Now