Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol?
I lawer o Gristnogion, yr egwyddorion sy'n eu harwain yw parchu crefftwaith creuY weithred o roi bodolaeth i rywbeth. Mewn crefydd, mae hyn yn cyfeirio at Dduw yn creu'r byd. Duw, peidio ag ecsbloetio unrhyw agwedd ar y creu a bod yn ymwybodol o anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Mae llawer o Gristnogion yn defnyddio'r egwyddorion hyn mewn perthynas â gofalu am yr amgylchedd, mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Mae'r Yr Eglwys GatholigY Pab sy'n arwain yr Eglwys Gatholig. Mae'r Eglwys Gatholig yn dysgu bod gan y Pab awdurdod arbennig sy'n deillio o'r Iesu ei hun. wedi ymateb i heriau materion amgylcheddol drwy bwysleisio bod angen i bob unigolyn a phob cenedl chwarae eu rhan. Mae pwyntiau pwysig yr Eglwys yn cynnwys y credoau canlynol:
- mae'r creu yn werthfawr oherwydd mae'n datgelu rhywbeth am Dduw y creawdwr
- mae gan y creu werth ynddo ei hun
- mae'r ddynol ryw'n dibynnu ar Dduw ond mae gan bawb gyfrifoldeb dros y byd a'r amgylchedd
Dywedodd Pab Ioan Paul IIPab yr Eglwys Gatholig o 1978 tan iddo farw yn 2005.:
…nid yw'r llywodraeth a roddwyd i'r ddynol ryw gan y Creawdwr yn bŵer llwyr, ac ni ellir sôn am ryddid i 'ddefnyddio a chamddefnyddio', nac i waredu pethau yn ôl dymuniad unigolyn.
Mae Eglwys LoegrCangen Lloegr yr Eglwys Anglicanaidd. wedi gwneud llawer o ddatganiadau am faterion amgylcheddol.
Mae Rhwydwaith Amgylcheddol y Cymundeb Anglicanaidd wedi gwneud y datganiad canlynol am yr amgylchedd:
Mae Cristnogaeth, yn bennaf oll, yn golygu gofalu am y creu cyfan — bioamrywiaeth a busnes; gwleidyddiaeth a llygredd; afonydd, crefydd a choedwigoedd glaw...Os yw Cristnogion yn credu yn Iesu, rhaid iddyn nhw gydnabod nad yw pryderu am newid hinsawdd yn fater ychwanegol dewisol, ond ei fod yn un o faterion craidd y ffydd.
Mae'r eglwysi efengylaiddGrŵp, neu eglwys, sy'n rhoi pwyslais arbennig ar yr Efengyl a'r ysgrythurau fel yr unig awdurdod ym mhob mater sy'n ymwneud â ffydd ac ymddygiad. yn ymwybodol iawn o'r cysylltiad cryf rhwng materion amgylcheddol a thlodi dynol:
Rydym yn cydnabod bod tlodi'n gorfodi pobl i israddio'r creu er mwyn goroesi; felly rydym o blaid datblygu economïau cyfiawn a rhydd sy'n grymuso pobl dlawd ac yn creu toreth heb leihau harddwch y creu.
Gallai'r egwyddor hon fod yn berthnasol i fater datgoedwigo, yn enwedig os yw'n cael ei wneud gan bobl dlawd sy'n ceisio tyfu digon o fwyd i'w teuluoedd.
Mae'r CrynwrAelod o Gymdeithas y Cyfeillion, enwad Cristnogol â'i gred ganolog yn datgan bod pob bod dynol yn cynnwys adlewyrchiad ar lun Duw. yn ymwybodol iawn o effeithiau'r ddynol ryw ar y Ddaear. Maen nhw'n annog eu haelodau i wneud newidiadau i'w bywydau i'w galluogi nhw i fyw'n syml gan ecsbloetio'r Ddaear cyn lleied â phosibl:
Pan fyddwn yn gweld argyfwng, rydym hefyd yn gweld cyfle i ail-lunio cymdeithas fel cymundeb o bobl sy'n byw'n gynaliadwy fel rhan o'r byd naturiol. Drwy fyw bywyd symlach mewn cymdeithas garbon-isel, rydym yn agosáu at doreth o heddwch, rhyddid a gwir gymuned.