Y cysyniad o DduwCredoau Iddewig am Dduw

Mae ffydd llawer o grefyddau yn troi o amgylch Duw neu dduwiau. Un o'r prif gredoau Iddewig yw mai dim ond un Duw sydd, ac mai ef yn unig y dylid ei addoli.

Part of Astudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Credoau Iddewig am Dduw

Mae tri safbwynt y gall pobl ei arddel ar gwestiwn bodolaeth Duw.

  • Theistiad – rhywun sy’n credu bod Duw’n bodoli. Nid yw theistiaid o reidrwydd yn credu y gallant brofi bod Duw’n bodoli. Mae Iddewon yn theistiaid.
  • Agnostig – rhywun sydd o’r farn ei bod yn amhosibl gwybod y gwir am rai pethau, fel bodolaeth Duw neu fywyd ar ôl marw.
  • Anffyddiwr – rhywun sydd o’r farn nad oes Duw. Nid yw anffyddwyr o reidrwydd yn credu y gallant brofi bod anffyddiaeth yn wir.
Trending Now