Y cysyniad o DduwUndduwiaeth (un Duw)

Mae ffydd llawer o grefyddau yn troi o amgylch Duw neu dduwiau. Un o'r prif gredoau Iddewig yw mai dim ond un Duw sydd, ac mai ef yn unig y dylid ei addoli.

Part of Astudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Undduwiaeth (un Duw)

Mae Iddewon yn credu mai un Duw sydd - undduwiaeth yw hyn. Mae hyn yn gred bwysig iawn i Iddewon a dyma’r neges ganolog yng ngweddi’r .

Duw yn greawdwr

Mae Iddewon yn credu mai Duw oedd creawdwr y byd a phopeth ynddo. Daw’r gred hon o lyfr Genesis. Bydd gan rai Iddewon ddealltwriaeth lythrennog o stori’r creu. Ystyr hyn yw eu bod yn credu’r stori yn union fel y mae wedi’i hysgrifennu, tra bod eraill yn ei gweld yn fwy fel chwedl i egluro beth allai fod wedi digwydd, ond heb ei chymryd yn llythrennol.

Un peth y mae pob Iddew yn gytûn arno yw fod yn rhaid bod gan y byd greawdwr, gan ei fod yn rhy gymhleth i fod wedi dod i fodolaeth drwy siawns.

Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear
— Genesis 1:1

Natur Duw

Defnyddir y geiriau isod i ddisgrifio nodweddion sydd gan Dduw, yn ôl cred yr Iddewon. Maen nhw’n golygu bod Duw ym mhob man, ei fod yn hollalluog a’i fod yn hollgariadus tuag at ei greadigaeth:

  • hollbresennol – mae Duw’n bresennol ym mhob man
  • hollalluog – mae Duw’n hollalluog, ac yn gallu gwneud pob peth sy’n gyson â natur Duw
  • hollgariadus – mae Duw eisiau’r gorau yn unig i’w greadigaeth

Question

Beth yw ystyr hollgariadus?

Trending Now