Y cysyniad o DduwCred yn nysgeidiaeth y Shema

Mae ffydd llawer o grefyddau yn troi o amgylch Duw neu dduwiau. Un o'r prif gredoau Iddewig yw mai dim ond un Duw sydd, ac mai ef yn unig y dylid ei addoli.

Part of Astudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Cred yn nysgeidiaeth y Shema

Mae Iddewon yn credu yn Duw. Gwelir hyn yn un o weddïau pwysicaf yr Iddewon, y sy’n dechrau:

Clyw, O Israel: Yr Arglwydd ein Duw ni sydd un Arglwydd.
— Deuteronomium 6:4

Y Shema Yisrael (Deut. 6: 4-9, 11: 13-21, Num. 15:7-41) yw’r weddi Iddewig fwyaf hynafol sydd i’w chael yn y . Mae’n cadarnhau mai dim ond un Duw sydd. Dywed y Shema fod Duw yn bersonol ac yn mynnu cariad gan Iddewon â phob agwedd o’u bodolaeth. Dywed hefyd y dylai Iddewon ddilyn ei orchmynion a chaniatáu i’r cariad hwn gael ei weld. Bydd llawer o Iddewon yn dweud y Shema bob bore a nos gan ei bod yn weddi bwysig iawn.

Trending Now