Y cysyniad o DduwDuw: trosgynnol, tragwyddol, trugarog a barnwr

Mae ffydd llawer o grefyddau yn troi o amgylch Duw neu dduwiau. Un o'r prif gredoau Iddewig yw mai dim ond un Duw sydd, ac mai ef yn unig y dylid ei addoli.

Part of Astudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Duw yn drosgynnol, yn dragwyddol, yn drugarog ac yn farnwr

Mae Iddewon yn credu bod Duw yn drosgynnol. Dyma’r gred nad yw Duw’n rhan o’r byd rydym ni’n ei adnabod ac na ellir ei amgyffred yn llawn gan fodau dynol. Mae hyn oherwydd ei fod uwchlaw a thu hwnt i’r pethau daearol y gwyddom ni amdanynt.

Oherwydd nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i,” medd yr Arglwydd.
— Eseia 55: 8-9

Duw yn dragwyddol

Mae Iddewon yn credu bod Duw yn dragwyddol. Mae hyn yn golygu ei fod wedi bodoli erioed ac y bydd yn bodoli hyd byth. Nid yw wedi’i gyfyngu, fel bodau dynol, gan amser a gofod.

Duw yn drugarog

Mae’r syniad o Dduw trugarog yn cyfeirio at y gred na fydd Duw bob amser yn cosbi pobl sydd wedi tramgwyddo. Yn wahanol i agwedd rhai pobl heddiw sydd efallai’n credu y dylai tramgwyddwyr “gael eu haeddiant”, mae bod yn drugarog yn golygu dangos mwy o ddealltwriaeth. Mae Iddewon yn credu bod Duw yn maddau, ac er ei fod yn gwybod am y pechodau y mae pobl wedi’u cyflawni, nid yw bob amser yn eu cosbi o ganlyniad.

Duw yn farnwr

Pan fydd Iddewon yn disgrifio Duw fel barnwr maen nhw’n cyfeirio at y gred fod Duw yn gyfrifol am y tri isod:

  • cosbi
  • gwobrwyo
  • maddau

Maen nhw’n credu y bydd Duw’n cosbi neu’n gwobrwyo ei bobl yn dibynnu ar eu gweithredoedd yn ystod eu hamser ar y Ddaear. Pan fydd Iddewon yn cyflawni gweithredoedd a all gael eu hystyried yn ddrwg, byddant yn gofyn am faddeuant Duw, gan eu bod yn credu bod gan Dduw natur faddeugar.

Mae Iddewon yn credu bod Duw yn barnu bodau dynol bob ennyd o bob dydd a’i fod yn ystyried y modd y mae pobl yn trin ei gilydd. Gan wybod hyn, bydd Iddewon yn ymdrechu i weithredu mewn ffordd ddaionus, garedig tuag at ei gilydd a gwneud troeon da ac ufuddhau i’r .

Deddfwr

Mae llawer o Iddewon yn credu bod Duw wedi rhoi deddfau y mae’n rhaid i Iddewon ufuddhau iddynt, a bod y rhain i’w cael yn y . Mae Duw’n mynnu bod Iddewon yn dilyn ei orchmynion ac yn dangos eu gwerthfawrogiad iddo yn weledol.

Credant fod , a wedi gwneud gyda Duw. Fel rhan o’r trefniadau arbennig hyn, byddai Duw’n dysgu pobl sut i fyw. Ochr arall y cyfamod oedd y byddai Iddewon yn addoli un Duw yn unig ac yn ufuddhau i’w . Mitzvot yw’r enw ar y gorchmynion hyn.

Question

Eglura'r credoau Iddewig am Dduw.

Trending Now