Er i John Morris-Jones ymosod yn ddidrugaredd ar yr Orsedd gan ddweud fod 'Cymdeithas yr Orsedd yn ddi-fudd, a'i graddau'n ddiwerth, oherwydd y rhwyddineb y gollyngir pob annheilyngdod iddi. Derbynnir ymgeiswyr yn aelodau drwy arholiad sydd bum gwaith yn haws nag arholiad isaf Prifysgol Cymru'. Achosodd ei sylwadau rwyg enfawr rhwng y Brifysgol a'r Orsedd. Parhaodd y rhwyg am chwarter canrif a rhagor.
Er gwaethaf ymosodiadau John Morris-Jones ni allai'r Eisteddfod ei anwybyddu. Ac yntau'n ysgolhaig o'r radd flaenaf, yn ieithydd penigamp ac yn arbenigwr ar Gerdd Dafod, ni allai'r Brifwyl wneud hebddo. Bu'n beirniadu cystadleuaeth y Gadair bron bob blwyddyn o droad y ganrif hyd at ei farwolaeth ym 1929, a cheisiodd arwain y canu caeth o'r diffeithwch yr oedd ynddo ar y pryd. Beirniadodd yr awdlau yn y 'Steddfod Genedlaethol am y tro cyntaf yn Eisteddfod Lerpwl, a methodd yn ei ddyfarniad. Enillodd Pedrog y Gadair am awdl ddiflas hir yn nhraddodiad y ganrif flaenorol. Eifion Wyn oedd y gorau yn ôl Tafolog, ond yr ail yn ôl y ddau feirniad arall, ond . Canodd i'r bugail fel gwerinwr syml. 'Roedd awdl Eifion Wyn yn seiliedig ar Gwlt y Werin. Crêwr myth y Werin Ddiwylliedig oedd O.M.Edwards, ac 'roedd y ddelwedd o werin ddiwylliedig yn cyd-fynd ô'r ddelwedd o werin orthrymedig wrth i ysbryd Sosialaeth gyniwair drwy'r tir.
* 'Roedd awdl arloesol Eifion Wyn yn llawer gwell awdl na'r awdl fuddugol. Canodd yn ddiriaethol glir, gan ymwrthod â'r demtasiwn o droi ei fugail yn weinidog. Bu llawer o feirdd a beirniaid, fel R. Williams Parry, T. E. Nicholas ac E. Prosser Rhys, o'r farn i Eifion Wyn gael cam mawr ym 1900.
Y Goron
Testun. Pryddest, 'Williams Pantycelyn'
Enillydd. Job
Beirniaid. Iolo Caernarfon, Ben Davies a Glanystwyth (John Hughes)
Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937
Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.