| Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Awdl ragorol oedd yr awdl fuddugol, a cheir delweddu gwych a chynganeddu gloyw ynddi. Branwen yn hiraethu am Gymru a geir yn yr awdl, a'r môr yw'r ffin ynddi, y ffin rhwng Branwen a Chymru, y ffin rhwng dyhead a delfryd. Cerdd arall â chenedlaetholdeb yn thema iddi yw hon. Ysbryd gorffennol Cymru, iaith, diwylliant a thraddodiad, a gynrychiolir gan Franwen yn y gerdd. Y Goron Testun: Pryddest ar un o'r testunau canlynol: 'Cyni', 'Powys', 'Y Pentref' Enillydd: J. M. Edwards ('Y Pentref') Beirniaid: T. Gwynn Jones, S. B. Jones Cerddi eraill: Gwyndaf ac R. Bryn WIlliams Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Pryddest undonog a haniaethol yn y mesur moel. Soniai am y ddinas yn denu trigolion cefn-gwlad yn ystod blynyddoedd y dirwasgiad, thema a archwiliwyd ganddo yn ddiweddarach yn ei bryddest enwog 'Peiriannau'. Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937 Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993 Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |