Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Awdl ramantaidd arall yn ôl ei phwnc, ei harddull a'i chynnwys, ond awdl anarbennig iawn, er i'r beirniaid ei chanmol. Y Goron Testun: Pryddest, ' Tom Ellis' Enillydd: R. Machno Humphreys Beirniaid: Cadfan, Gwylfa, yr Athro Ellis Edwards Cerddi eraill:Y bryddest orau yn ôl Gwylfa oedd pryddest J. Dyfnallt Owen, prifardd coronog 1907. Pryddest gofiannol, rigymaidd a geir gan R. Machno Humphreys, ac 'roedd pryddest Dyfnallt yn tra-rhagori arni.Ymateb a sylwadau Alan Llwyd ' 'Roedd ysbryd Cymru Fydd yn fyw o hyd, ac er iddo farw ym 1899 'roedd yr Aelod Seneddol dros Feirionnydd, Tom Ellis, yn parhau i fod yn arwr gan lawer o Gymry. Delfryd Tom Ellis oedd sefydlu senedd i Gymru, ond dan gochl Rhyddfrydiaeth Brydeinig. 'Roedd ei genedlaetholdeb yn pwysleisio'r undod rhwng hanes, llenyddiaeth, celfyddyd, gwerthoedd cymdeithasol ac ideolegau gwleidyddol. Arthur yn deffro o'i drwmgwsg yn yr ogof oedd un o brif ddelweddau beirdd yr Eisteddfod yn y cyfnod hwn, o T.Gwynn Jones i R.Machno Humphreys, ac ailddyfodiad Arthur yn symbol o'r dadeni cenedlaethol. Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937
Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |