Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Wedi i'w gefnder, R. Williams Parry, ennill gyda'i awdl ' Yr Haf' ym Mae Colwyn ddwy flynedd ynghynt, dyma un arall o'r to ifanc cyffrous newydd yn ennill ei gadair gyntaf ac yn creu hanes. Ceir yn yr awdl enghraifft gynnar o un o themâu mawr Parry-Williams, sef ymlyniad wrth fro. Y Goron Testun. Pryddest: ' Gerallt Gymro' Enillydd: T. H. Parry-Williams Beirniaid: Ben Davies, yr Athro Syr Edward Anwyl, GwiliYmateb a sylwadau Alan Llwyd Buddugoliaeth fawr ac Eisteddfod gofiadwy i aelod arall o'r to ifanc o'r beirdd academaidd a rhamantaidd, pobl fel T. Gwynn Jones, R. Silyn Roberts, W. J. Gruffydd ac R. Williams Parry. Pryddest yn y traddodiad cofiannol yw hon eto, ond daeth Parry-Williams ag elfen bersonol i mewn iddi, oherwydd wrth ganu am hiraeth Gerallt am Gymru o Baris yr oedd yn canu ei hiraeth ei hun. Yr oedd yn fyfyriwr yn Freiburg, Yr Almaen, ar y pryd. Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937 Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993 Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |