Ymateb a sylwadau Alan Llwyd 'Gofynnwyd i'r beirdd rodio Afallon yng nghanol Armagedon y Rhyfel. 'Ystrad Fflur' oedd testun yr awdl a John Ellis Williams, un o fyfyrwyr John Morris-Jones, oedd y bardd buddugol. Yn ail iddo, ac yn gyntaf deilwng gan J. J. Williams, 'roedd bardd ifanc cymharol ddiaddysg ac anadnabyddus o'r enw Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn. Awdl anarbennig oedd yr awdl fuddugol. Yr oedd awdl Hedd Wyn yn tra rhagori arni, a bu llawer o feio ar John Morris-Jones a Berw am y camddyfarnu. Dangosodd J. J. Williams yr awdlau i T. Gwynn Jones cyn yr Eisteddfod a chytunai Gwynn Jones mai awdl Hedd Wyn oedd yr orau. Y Goron Ni chynigiwyd Coron. Gofynnwyd am bedair telyneg a rhannwyd y wobr rhwng Gwili a Wil Ifan. Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937 Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993 Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |