Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Awdl delynegol, bert oedd yr awdl fuddugol, a bu'n awdl boblogaidd iawn am flynyddoedd lawer, yn enwedig un darn cywydd adnabyddus. O safbwynt gelynion y canu caeth, yr oedd yr awdl hon yn brawf arall o amharodrwydd ac anallu'r beirdd caeth i wynebu bywyd fel ag yr oedd ac i symud ymlaen gyda'r oes. Tra cadeiriwyd awdl delynegol a ganai am serch a natur yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, coronwyd pryddest aflonyddus a oedd yn sôn am Lundain y clybiau nos, meddwdod ac erchyllterau'r Rhyfel Mawr. Y Goron Testun. Pryddest ar un o'r testunau canlynol: 'Breuddwyd Macsen', 'Gwilym Hiraethog', 'Arwydd Mab y Dyn;, 'Mab y Bwthyn' Enillydd: Cynan ('Mab y Bwthyn') Beirniaid: Anthropos, Crwys, Gwili Ymateb a sylwadau Alan Llwyd 'Roedd pryddest Cynan yn sioc i ddarllenwyr barddoniaeth Gymraeg. Ni chafwyd ynddi ddim o'r eirfa eisteddfodol dreuliedig. Defnyddiodd iaith blaen, uniongyrchol i gyfleu ei neges losg. Mae'r bryddest yn llawn o angst y cyfnod ôl-Ryfel: siom, dadrith, euogrwydd, gwacter ystyr, a chais i foddi'r gwacter ystyr hwnnw yn y clybiau nos yng nghanol meddwdod, anfoesoldeb, y 'tango' a 'jazz'. Ceir ynddi ddisgrifiadau cignoeth o ymladd yn y ffosydd. Un o gefnogwyr ysgol 'realaeth' oedd Cynan, a galwyd y bryddest yn 'bryddest ryfedd' gan amryw. Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937 Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993 Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |