Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Awdl ddigon cymen, a rhai cwpledi rhagorol ynddi, ond digon dof ydoedd at ei gilydd. Y Goron Testun. Pryddest: 'Bro fy Mebyd' neu 'Plant y Llawr' Enillydd: Wil Ifan ('Bro fy Mebyd') Beirniaid: Elfed, Emyr, Cynan Cerddi eraill: Dewi Emrys yn uchel eto, ac 'roedd un o Brifeirdd ac Archdderwyddon y dyfodol yn y gystadleuaeth hefyd, sef R. Bryn Williams. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Yr oedd cystadleuaeth y Goron ym Mhwllheli yn garreg filltir bwysig yn hanes barddoniaeth Gymraeg ac yn hanes yr Eisteddfod oherwydd dyma'r tro cyntaf erioed i gerdd vers libre ennill y Goron. Ar ben hynny, 'roedd yn bryddest dda iawn. Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937 Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993 Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |