Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Dyma un o feirdd pwysicaf y dyfodol yn ymddangos ar y llwyfan eisteddfodol, ac yn llunio awdl ragorol a oedd yn drwm o dan ddylanwad athroniaeth Thomas Aquinas. Mae'r awdl hon yn gynsail i un o themâu pwysicaf Gwenallt yn ei gyfrol Ysgubau'r Awen, sef y gwrthdaro rhwng cnawd ac enaid. Y Goron Testun: Casgliad o farddoniaeth wreiddiol yn y mesurau rhyddion Enillydd: Dewi Emrys ('Rhigymau'r Ffordd Fawr') Beirniaid: Elfed, T. Gwynn Jones, W. J. Gruffydd Ymateb a sylwadau Alan Llwyd O'r diwedd, dyma Dewi Emrys yn ennill un o brif lawryfon yr Eisteddfod, ond gyda chasgliad barddonllyd a di-wefr. Yr oedd W. J. Gruffydd yn dymuno atal y Goron i ddechrau, ond newidiodd ei feddwl. Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937 Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993 Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |