| Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Awdl gloff a di-wefr. Y Goron Testun. Pryddest, ar un o'r testunau canlynol: 'Yn y Wlad', 'Yr Hyfryd Lais', ' Rownd yr Horn' Enillydd: S. B. Jones ('Rownd yr Horn') Beirniaid: W. J. Gruffydd, Gwili, Cynan Cerddi eraill: Amanwy, Arthur Gwynn Jones, y telynegwr, ac O. J. Williams, a oedd yn ail. Mae stori drist yn gysylltiedig â'r gystadleuaeth. Bu farw O.J. Williams, brodor o Borthmadog ond athro ysgol ym Mhwllheli ar y pryd, yn 32 oed ym mlwyddyn yr Eisteddfod. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Pryddest gartrefol, werinol hynod o ddarllenadwy yn null Cynan yn y Gymraeg a John Masefield yn Saesneg. Yr oedd y ddau, Cynan a Masefield, yn bresennol yn seremoni'r coroni, Cynan fel beirniad a John Masefield fel g^wr gwadd. Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937 Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993 Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |