Y Goron Testun. Pryddest: 'Ebargofiant' neu 'Paul', neu Ddrama Fydryddol: 'Iesebel' neu 'Myrddin' Enillydd: Herman Jones ('Ebargofiant') Beirniaid: W. J. Gruffydd, Cynan, E. Prosser Rhys Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Defnyddiwyd Y Gododdin , Aneirin, yn sail i'r bryddest, a sonnir ynddi am y ddwy genhedlaeth a aeth i ryfel, cenhedlaeth y Rhyfel Mawr a chenhedlaeth yr Ail Ryfel Byd. Mae'n amlwg fod Herman Jones, myfyriwr ifanc ar y pryd, wedi atgoffa un o'r beirniaid o leiaf am erchyllterau rhyfel. O gofio'r profiadau a ddisgrifiodd Cynan yn ei bryddest ei hun, 'Mab y Bwthyn' ym 1921, 'roedd ei feirniadaeth yn llawn ing: 'Ni sonnir yn y bryddest am ein dyddiau ni fel y cyfryw ond y mae ei harwyddocâd yn ddigon eglur i unrhyw dad a fu trwy uffern y rhyfel diwethaf os cyrhaeddodd ei fab erbyn hyn 'oedran milwrol'. Y Fedal Ryddiaith Rhwng 1942 a 1944. Y bwriad oedd cyflwyno'r Fedal am waith gorau y blynyddoedd 1942 ´ 1944 ym 1945, ond ni chafwyd teilyngdod. Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993 Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |