Ymateb a sylwadau Alan Llwyd 'Roedd awdl anfudugol James Nicholas yn adlewyrchu dechreuad oes y brotest. Yma yng Nghymru bu protestio yn erbyn y bwriad i foddi Capel Celyn ac 'roedd Saunders Lewis wedi cynhyrfu'r dyfroedd yn ei ddarlith 'Tynged yr Iaith'. Ond 'roedd oes y brotest yn lledaenu drwy'r byd, y duon yn yr Unol Daleithiau a'r mudiad heddwch newydd a godasai o ganol tanchwa Hiroshima a Nagasaki. 'Roedd y dechnoleg newydd yn dechrau ymestyn y tu hwnt i ffiniau'r ddaear. 'Roedd Rwsia wedi anfon dyn i'r gofod, ac ym 1962, efelychwyd Rwsia gan America. 'Roedd y ras arfau rhwng America a'r Undeb. Sofietaidd yn ras yn y gofod hefyd. Awdl ar Fesur Madog T. Gwynn Jones oedd yr awdl fuddugol, a rhai darnau grymus ynddi. Y Goron Testun. Pryddest: ' Y Cwmwl' Enillydd: D. Emlyn Lewis Beirniaid: Euros Bowen, David Jones, Waldo Williams Cerddi eraill: Tom Parri-Jones. L. Haydn Lewis, Dyfnallt Morgan Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Pryddest drymaidd, orddelweddog ac anniddorol am brofiadau offeiriad. Y Fedal Ryddiaith Testun: Dyddiadur Bywgraffiadol neu Ddychmygol Enillydd. William Owen: Bu farw Ezra Bebb Tlws y Ddrama Neb yn Deilwng Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |