Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Os cymherir yr awdl hon ag awdl 'Y Glöwr' a enillodd y Gadair i Gwilym R. Tilsley ym 1950, gwelir yn glir y newidiad au a ddigwyddodd mewn hanner can mlynedd. 'Roedd y pyllau wedi cau a chymdeithas wedi ei chwalu, a'r ddelwedd o Gymru fel gwlad y glöwr wedi colli ei hystyr. Er bod yr hen ffordd o fyw wedi diflannu, nid oedd yn angof. Mae Emyr Lewis yn cymharu ddoe a heddiw, ac yn ein hatgoffa am yr hanes, yr arwriaeth a'r troddodiad balch a fu yma unwaith mewn awdl gref. Y Goron Testun. Pryddest neu ddilyniant o gerddi: 'Dolenni' Enillydd: Gerwyn Williams Beirniaid: Dafydd R. Johnston, Nesta Wyn Jones, Dyfnallt Morgan Cerddi eraill: Cerdd gan D. Islwyn Edwards oedd dewis Nesta Wyn Jones am y Goron. Yn y gystadleuaeth hefyd gosodwyd cynigion gan Lyn Davies, R. Gwyn Davies, Gwyneth Lewis ac Ynyr Williams yn uchel. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Ceir yn y gwaith hwn hefyd siawns i ailystyried rhai o ddigwyddiadau'r ugeinfed ganrif. Yn ei gerdd 'Washington ', mae Gerwyn Williams yn mynd â ni yn ôl at un o'r golygfeydd mwyaf dychrynllyd a welwyd yn yr ugeinfed ganrif. Mae'n codi arswyd arnom eto gyda'r llun o ferch fach yn rhedeg yn noeth i lawr llwybr o'i phentref yn Fietnam a'i chroen yn friw gan y napalm yr oedd awyrennau bomio yr Unol Daleithiau wedi eu gollwng ar ei chartref. Ond nid y gorffennol yn unig a gaiff sylw Gerwyn Williams. Yn y gerdd 'Pentref ' mae'n poeni am ddylanwad y dechnoleg newydd, technoleg newydd sy'n ail-greu'r byd ar lun pentref byd-eang. Mae'r chwyldro technolegol wedi cyrraedd pob agwedd ar fywyd, a'r cyfrifia dur wedi dod yn ddelw, os nad yn dduw. Mae'r we yn caniatáu chwarae a gweithio, siopa a sbecian o'r cartref. 'Does dim angen mynd drwy'r drws i dalu bil, i gyrchu papur newydd. Yn lle cyfathrebu â chyd-ddyn mae perygl mai â pheiriannau y byddwn yn cymdeithasu yn y dyfodol. Y Fedal Ryddiaith Cyfrol o ryddiaith greadigol: 'Cyrraedd' Enillydd: Robin Llywelyn (O'r Harbwr Gwag i'r Cefnfor Gwyn) Tlws y Ddrama Diddymwyd y gystadleuaeth ym 1993 Tlws y Cerddor Peter Finn Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |