Agor Pont Briwet, Meirionnydd wedi cynllun £20m

  • Cyhoeddwyd
AgoriadFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y lon ei hagor yn swyddogol gan blant Ysgol Talsarnau ac Ysgol Cefn Coch

Bellach mae modd croesi'r bont newydd dros aber afon Dwyryd, yng ngogledd Meirionnydd, wedi i Bont Briwet agor yn swyddogol ddydd Llun.

Cafodd yr hen bont a oedd yn 150 oed ei chau 18 mis yn ôl ac ers hynny bu'n rhaid i drigolion yr ardal deithio 16 milltir ychwanegol i fynd i'w gwaith neu i siopa ac mae hynny wedi creu anhwylustod a chostau ychwanegol.

Cafodd system gonfoi ei defnyddio i hwyluso traffig ar yr A496 rhwng Llandecwyn a Maentwrog gan fod y ffordd mor gul.

Disgrifiad,

Ar ôl deunaw mis o waith adnewyddu, mae'r bont sy'n cysylltu Penrhyndeudraeth a Harlech wedi ail agor.

Mae'r bont newydd wedi costio £20 miliwn, arian o Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop, Network Rail, Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.

Pont Briwet
Disgrifiad o’r llun,

Mae mawr oedi wedi bod ar gwblhau'r gwaith adeiladu ar Bont Briwet

Cafodd y bont reilffordd ei hagor ym mis Medi'r llynedd ac roedd y bont i gerbydau i fod i agor chwe mis yn ôl ond oherwydd problemau technegol bu rhaid gohirio'r agoriad.

Fe wnaeth plant o ysgolion Talsarnau a Phenrhyndeudraeth dorri'r rhuban i agor y bont newydd yn swyddogol ddydd Llun.

Bydd modd i gerddwyr a beicwyr ddefnyddio'r lon newydd a fydd yn cysylltu gyda Llwybr Arfordir Cymru.

PlantFfynhonnell y llun, cyngor gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Plant yr ysgolion cynradd lleol yn yr agoriad swyddogol

Pont BriwetFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Y bont ar ei newydd wedd

CroesiFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Ceir a cherddwyr yn croesi'r bont ddydd Llun

Traffig yn Harlech
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl leol wedi gorfod teithio 16 milltir yn ychwanegol tra'n aros am bont newydd

Straeon perthnasol

Trending Now