Yr Arweinwyr: Eluned Morgan

GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Wrth i Etholiad y Senedd agosáu, pwy ydy'r bobl sy'n gobeithio bod yn Brif Weinidog eu gwlad?

Mewn cyfres o erthyglau, Cymru Fyw sy'n cyhoeddi proffil o arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru.

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe ddechreuodd Eluned Morgan ei gyrfa wleidyddol yn ifanc, a dros y blynyddoedd mae wedi gweithio mewn seneddau ym Mrwsel, Llundain a Chaerdydd.

Yn gyn-Aelod Seneddol Ewropeaidd, yn Farwnes a bellach yn Brif Weinidog Cymru ers Awst 2024, mae ei gyrfa wedi bod yn un amrywiol - yn cyfuno'r rhyngwladol a'r lleol.

Cafodd ei geni yng Nghaerdydd yn 1967, yn un o bedwar o blant i'r Parchedig Bob Morgan a'i wraig, Elaine.

Yn ardal Trelái o'r ddinas roedd y teulu'n byw, ond mae gan teulu Ms Morgan hefyd gysylltiadau cryf ag ardal Tŷ Ddewi yn Sir Benfro.

Aeth Eluned Morgan i Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, ac i Goleg yr Iwerydd ym Mro Morgannwg wedi iddi ennill mynediad drwy ysgoloriaeth, cyn mynd 'mlaen i astudio Astudiaethau Ewropeaidd ym Mhrifysgol Hull.

Magwraeth o fewn y traddodiad Llafur

Roedd Bob ac Elaine Morgan yn gynghorwyr Llafur, ac felly roedd gweld rhai o fawrion y blaid ar yr aelwyd yn rhywbeth cyffredin tu hwnt yng nghartref y teulu.

Yn curo drysau a chanfasio gyda rhai o ffigyrau mwyaf blaenllaw y chwith yng Nghymru, roedd y Blaid Lafur yn ganolog i blentyndod a datblygiad Eluned Morgan fel dynes ifanc, ac roedd hi'n anochel y byddai hyn yn cael dylanwad arni.

Roedd Rhodri Morgan a'i wraig, Julie, yn dod draw'n aml, ac felly Mark Drakeford a chyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, James Callaghan. Roedd Neil a Glenys Kinnock hefyd yn ffrindiau agos i'r teulu.

Eluned Morgan gyda Neil Kinnock a'i wraig, Glenys KinnockFfynhonnell y llun, Alamy
Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan gyda Neil Kinnock a'i wraig, Glenys Kinnock, yn aros am y canlyniadau ar noson etholiadol Ewropeaidd

Yn siarad ar raglen arbennig ar BBC Radio 4, dywed yr Arglwydd Neil Kinnock: "Mae Eluned yn berson mor egnïol, ac unwaith mae hi'n penderfynu ar wneud rhywbeth mae hi'n mynd ar ei ôl, heb stopio.

"O'n i'n nabod ei thad hi, Bob - dyn hyfryd a oedd yn arweinydd ar Gyngor Caerdydd.

"Roedd e (Bob) yn ddocynnwr bws a oedd hefyd yn cymryd gwasanaethau crefyddol, ac aeth ymlaen i fod yn ficer yn Nhrelái, Caerdydd. Felly o'n i 'nabod ei rhieni blynyddoedd cyn o'n i'n 'nabod Eluned."

Aeth Bob Morgan ymlaen i arwain Cyngor De Morgannwg.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Cerddoriaeth a rhedeg

Mae Ceri Innes Parry'n ffrindiau â Ms Morgan ers dros hanner canrif, ac yn cofio ei chymeriad cryf yn yr ysgol.

"Rydyn ni wedi bod yn ffrindiau ers oedden ni'n saith neu wyth mlwydd oed – siŵr o fod achos bod ein personoliaethau'n eitha' tebyg, yn swnllyd a bybli.

"Roedden ni'n dwy yn hoff iawn o berfformio, a dwi'n cofio mynd efo Eluned i ganu yn yr Albert Hall ar Ddydd Gŵyl Dewi yn ein gwisgoedd Cymreig - mae gen i lais alto hyfryd!"

Yn yr ysgol roedd Eluned Morgan yn rhagori ar redeg 1,500m traws gwlad, gan ennill yng nghystadlaethau'r Sir yn ei hoedran.

Hoff fand Eluned a Ceri ar un cyfnod oedd y band Cymraeg, Crys, o ardal Resolfen. Roedd yn ddwy'n hoff iawn o'r gân Pendoncwyr o'r albwm Tymor yr Heliwr (1982).

Trelái Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Trelái, yr ardal o Gaerdydd ble cafodd Eluned Morgan ei magu

Tra'n ddisgybl yng Ngholeg yr Iwerydd roedd cerddoriaeth yn ganolog i fywyd Ms Morgan - roedd hi'n ffan o gerddoriaeth Barry Manilow, Queen a David Bowie.

Roedd Ms Morgan yn chwarae'r trwmped, gyda'i ffrind o Colombia yng Ngholeg yr Iwerydd, Claudia Velez, yn chwarae'r gitâr. Roedd y ddwy'n bysgio ar strydoedd Caerdydd yn canu caneuon Sbaeneg enwog fel Guajira Guantanamera a Maria Maria, yn ogystal â chaneuon Cymraeg.

Am gyfnod roedd Eluned Morgan yn gweithio fel achubwr bywyd mewn pwll nofio, ac yna am flwyddyn fe aeth i Dde America i astudio Sbaeneg, ac aros gyda theulu ei chyfaill o'r Coleg Iwerydd, Claudia Valez. Cafodd gyfnod o antur yn gweithio ar blanhigfa goffi yn Nicaragua a theithio o amgylch Colombia.

Stagiaire ym Mrwsel

Am gyfnod fe roedd Eluned Morgan yn gweithio fel ymchwilydd i S4C, Agenda TV ac i BBC Cymru.

Roedd hi'n ymddiddori mewn materion rhyngwladol, ac yn 1990 cafodd le fel stagiaire (intern) yn Senedd Ewrop, gan weithio gyda'r grŵp sosialaidd.

Yna yn 1994 cafodd ei hethol fel Aelod i Senedd Ewrop - yr ieuengaf o'r holl (567) aelodau.

Yn ei chyfnod gyda'r Senedd Ewropeaidd roedd hi'n llefarydd ar y gyllideb i'r grŵp sosialaidd.

"Roedd hi'n ifanc, llawn brwdfrydedd, yn aml-ieithol, yn annwyl a chlyfar iawn, ac yn Llafur i'w chraidd," meddai Neil Kinnock.

Eluned Morgan yn Strasbourg, Gorffennaf, 1994
Disgrifiad o’r llun,

Yn 27 mlwydd oed, Eluned Morgan, oedd aelod ieuengaf Senedd Ewrop pan gafodd ei hethol

Wedi iddi adael Senedd Ewrop yn 2009 bu Ms Morgan yn gweithio fel Cyfarwyddwr Datblygu Cenedlaethol SSE yng Nghymru (SWALEC) o 2009 i fis Mehefin 2013, a hi oedd yn gyfrifol am sefydlu Canolfan Ynni Clyfar SWALEC yn Nhrefforest.

Ac yn 2010 cafodd ei derbyn i Dŷ'r Arglwyddi, a hawlio'r teitl Y Gwir Anrhydeddus Y Farwnes Morgan o Drelái.

Eluned Morgan a Nicole FontaineFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gyda'r gwleidydd o Ffrainc, Nicole Fontaine, yn 1994

Senedd Cymru

Cafodd Eluned Morgan ei hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol, fel yr oedd ar y pryd, gyntaf yn 2016, gan gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Yn ei hamser yn y Senedd mae wedi cael sawl portffolio, gan fod yn gyfrifol am faterion iaith Gymraeg, materion rhyngwladol, ac yna ei phenodi fel y Gweinidog Iechyd yn 2021.

Fe safodd Ms Morgan yn yr ornest i fod yn Brif Weinidog ac arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru yn 2018 wedi i Carwyn Jones roi'r gorau i'r swydd.

Ond fe orffennodd yn drydydd tu ôl i Mark Drakeford a Vaughan Gething, gan hawlio 22.3% o'r bleidlais ymysg yr aelodau.

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Is-arweinydd Llafur Cymru, Carolyn Harris, yn datgan mai Mark Drakeford oedd yn fuddugol yn yr ornest i fod yn Brif Weinidog Cymru, gyda Vaughan Gething yn ail ac Eluned Morgan yn drydydd - 6 Rhagfyr, 2018

Ym mis Mawrth 2022, cafodd Ms Morgan ei gwahardd rhag gyrru am chwe mis yn dilyn dirwyon cyflymder ar sawl achlysur.

Y drosedd a aeth a hi dros yr uchafswm pwyntiau caniataol ar ei thrwydded oedd mynd yn gyflymach 'na 30mya ar ffordd yn ardal Wrecsam.

Swydd y Prif Weinidog

Etholwyd Vaughan Gething fel Prif Weinidog yn 2024 drwy guro Jeremy Miles am yr arweinyddiaeth. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach bu raid i Gething ymddiswyddo wedi manylion o bwy ariannodd ei ymgyrch arweinyddiaeth ddod i'r amlwg.

Felly, fe ddaeth y cyfle unwaith eto i Eluned Morgan fynd am yr arweinyddiaeth ac fe gafodd ei hethol yn ddiwrthwynebiad ym mis Gorffennaf 2024. Ym mis Hydref 2024 fe wnaeth hefyd ymuno â Chyngor Cyfrin y Brenin.

Pan ddaeth Ms Morgan yn Brif Weinidog fe ddywedodd ei bod am gymryd saib o'i gwaith yn Nhŷ'r Arglwyddi er mwyn canolbwyntio ar ei dyletswyddau yn Senedd Cymru.

Starmer a MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan yn cwrdd â Phrif Weinidog Y Deyrnas Unedig, Keir Starmer, ar 19 Awst 2024

Mae Eluned Morgan yn briod â Rhys Jenkins, ficer a chyn-feddyg, ers 1996, ac mae ganddyn nhw ddau o blant - Arwel a Gwenllian. Fel ei rhieni a'i gŵr, mae Ms Morgan wedi datgan bod ei ffydd Gristnogol yn bwysig iawn iddi.

Yn Etholiadau'r Senedd 2026 bydd Eluned Morgan yn sefyll yn etholaeth Ceredigion Penfro - etholaeth fawr o ran tiriogaeth, yn mynd o Aberystwyth yn y gogledd i lawr i Ddoc Penfro.

Mae'r Blaid Lafur wedi rheoli'r tirlun gwleidyddol yng Nghymru ers dros ganrif, ac mi fydd Eluned Morgan yn gobeithio gweld y genedl yn ffafrio'r blaid unwaith eto a'i hail-ethol fel Prif Weinidog Cymru ar 7 Mai.

Ms Morgan yn annerch ei phlaid yn y lansiad ar gyfer Etholiadau'r Senedd 2026
Disgrifiad o’r llun,

Ms Morgan yn annerch ei phlaid yn y lansiad ar gyfer Etholiadau'r Senedd 2026

Dewiswyd trefn cyhoeddi y darnau proffil ar hap - mi fydd yna erthyglau tebyg am arweinwyr pob un o'r brif pleidiau yn cael eu cyhoeddi rhwng nawr a 10 Ebrill.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now