Wcráin: Teulu'n aduno yn Slofacia cyn dychwelyd i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Gareth Roberts a'i wraig Nataliia o Drawsfynydd wedi aduno â'u teulu o Wcráin ar y ffin yn Slofacia

GanElen Wyn, Geraint Thomas a Rhodri Llywelyn
Newyddion S4C yn Slofacia

Ers dros ddau ddegawd mae Gareth Roberts a'i wraig Nataliia wedi bod yn rhannu eu bywyd rhwng eu cartrefi yn Nhrawsfynydd ac Horishni Plavni, tref o 'chydig dros 50,000 o bobl ar lannau'r Dnieper yng nghanolbarth Wcráin.

Ond mae'r hen drefn wedi darfod am y tro wrth i fyddin Rwsia ymosod ar Wcráin o sawl cyfeiriad.

Daeth Nataliia a'i gŵr i Gymru ganol fis Ionawr, a'r bwriad oedd mynd 'nôl i Wcráin ym mis Mawrth.

Ond daeth y rhyfel â'u trefniadau i ben, a gweddill eu teulu yn Horishni Plavni a chyrchoedd Putin yn agosáu.

'Hapus eu bo' nhw'n ddiogel'

Yno roedd Angelina, merch Nataliia a llysferch Gareth Roberts, ei merch hithau, Albina sy'n 12 oed, a'i thad Vova.

Penderfynwyd fod rhaid cael y merched o'r wlad, a'u hebrwng rhywsut i ddiogelwch cefn gwlad Cymru.

Ar ôl teithio o Drawsfynydd i bentref Vysne Nemeck yn Slofacia ar y ffin gyda Wcráin, roedd rhaid i Nataliia a Gareth ddisgwyl ynghanol pentref sydd wedi troi, i bob pwrpas, yn wersyll i ffoaduriaid, yn lloches o'r rhyfel ac yn fan cychwyn i weddill y daith.

Gareth Roberts a'i deulu
Disgrifiad o’r llun,

Yr aduniad: O'r chwith i'r dde, Albina, Nataliia, Angelina, Giina y ci a Gareth Roberts

"Ma' Nataliia a fi yn hapus bo' ni ar y ffin, ma' nhwythau wedi cyrraedd a ma' hynna yn codi ein calonnau," meddai Gareth Roberts, gyda baner Cymru o amgylch ei 'sgwyddau a baner Wcráin wedi ei chlymu o amgylch ysgwyddau ei wraig.

"Ma' Nataliia yn nerfus, yn edrych 'mlaen i weld ei theulu, ac yn hapus eu bo' nhw'n ddiogel."

'Siwrna hir yn ôl i Gymru'

Heb wybod faint o rwystrau fyddai ar y ffordd, roedd Angelina, Albina a'u ci bach Giina wedi gadael eu cartref ers ychydig ddyddiau er mwyn cyrraedd y ffin.

Ond bu'n rhaid gadael Vova ar ôl. Does dim hawl i ddynion rhwng 18 a 64 ffoi - rhaid aros i amddiffyn eu gwlad.

"Gafon ni gyfle i weld nhw'n llwytho y car," meddai Gareth Roberts.

"Angelina a'i gŵr yn 'neud hynna. Mae'r car yn llawn felly fydd hi'n siwrna reit hir yn ôl i Gymru."

Gareth Roberts a'i deulu
Disgrifiad o’r llun,

Er hapusrwydd yr aduniad, mae pryder am fod tad Albina, Vova, wedi gorfod aros i frwydro

Cyn yr aduniad, roedd 'na sôn am ddychwelyd rhyw ddydd i Wcráin.

"'Da ni'n llawn obeithio y bydd pethau'n setlo. 'Da ni yn awyddus i weld y mab yng nghyfraith, sy'n amddiffyn ei dref."

'Diolchgar i ffrindiau yng Nghymru'

Ar ôl sefyll am sbel gan syllu ar wynebau pawb oedd yn pasio - dyma sylwi ar gar Angelina, ac roedd y teulu bron yn gyflawn unwaith eto.

Cofleidio, sibrwd ambell air - "You're safe now, ok", a "We'll look after you" cyn dechrau gwenu eto.

"Taid - do you remember?" meddai Gareth wrth ei wyres, a hithau yn cofio; merch 12 oed yn sefyll ymhell o'i chartref - un o ffoaduriaid rhyfel Wcráin.

Gareth Roberts a'i deulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu nawr yn wynebu taith hir yn ôl i Gymru

Yr her nesaf yw gadael Slofacia am Gymru.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi newid rhywfaint ar y broses o wneud cais am fisa, fel nad oes rhaid i Wcrainiaid sydd â theulu ym Mhrydain gwblhau y profion biometric yn Ewrop.

O'r wythnos yma mae modd cwblhau y rhan fwyaf o'r ffurflen ar-lein, ac yna gorffen y broses ar ôl cyrraedd.

"'Da ni yn edrych 'mlaen i fod yng Nghymru, ond hefyd i ddychwelyd. Falle bydd hi'n fisoedd, ond 'da ni'n ddiolchgar i ffrindiau yng Nghymru," meddai Gareth Roberts.

Slofacia
Disgrifiad o’r llun,

Mae bron i dair miliwn o bobl wedi ffoi o Wcrain ers dechrau'r brwydro, yn ôl y Cenhedloedd Unedig

Bu'r teulu yna'n anelu am westy, cyn cychwyn ar y daith hir 'nôl i Gymru.

Ond mae'r profiad yn chwerw felys i'r pedwar, gan wybod bod Vova ynghanol rhyfel, ac nad oes sicrwydd y bydd y pump gyda'i gilydd byth eto.

"Dwi'n hapus," meddai Nataliia, "i weld Angelina ac Albina, ond 'da ni ddim yn hapus bod Vova yn Wcráin, a ddim yn hapus am [y sefyllfa yn] Wcráin."

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

Trending Now