Storm Goretti: Cannoedd wedi bod heb bŵer a rhybudd am fwy o rew

Golygfa uwchben Llyn Efyrnwy, Powys, ddydd Gwener
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o gartrefi wedi bod heb drydan, ysgolion wedi cau a gwasanaethau trenau wedi'u hoedi wrth i Storm Goretti ddod ag eira trwm a mellt a tharanau mewn mannau.
Roedd rhybudd oren am eira, dolen allanol o Storm Goretti - a gafodd ei henwi gan swyddfa dywydd Ffrainc - mewn grym tan 09:00 fore Gwener ar gyfer rhannau o'r cymoedd yn y de, y canolbarth a'r gogledd.
Er bod sawl rhybudd tywydd bellach wedi dod i ben, mae rhybudd melyn am rew, dolen allanol gan y Swyddfa Dywydd mewn grym tan 12:00 ddydd Sadwrn, ac mae'n berthnasol i fwyafrif y wlad ac eithrio Ynys Môn, Abertawe a Sir Benfro.
Ar ei waethaf fore Gwener roedd dros 650 o gwsmeriaid heb drydan yn y de a'r gorllewin yn ôl y Grid Cenedlaethol, dolen allanol gyda Cheredigion wedi'i heffeithio'n wael.
Fe wnaeth dros 150 o ysgolion gyhoeddi na fyddan nhw'n agor i ddisgyblion ddydd Gwener gan gynnwys nifer ym Mhowys, Blaenau Gwent a Wrecsam.

Mae'r rhybudd am rew mewn grym o 12:00 ddydd Gwener tan 12:00 ddydd Sadwrn
Roedd disgwyl tua 10 i 15 cm o eira gwympo yn yr ardaloedd dan sylw nos Iau gyda hyd at 30cm ar dir uchel.
Roedd disgwyl hefyd i rywfaint o eira rewi eto dros nos wrth i'r tymheredd ostwng o dan y rhewbwynt nos Wener, allai arwain at amodau peryglus ar y ffyrdd ac ar balmentydd.
Gwyliwch: Taith trwy’r Bannau yn dilyn Storm Goretti
O'r awyr: Ardal Llyn Efyrnwy yn drwch o eira
Anaml rydym yn gweld cyfuniad o eira a mellt a tharanau - ond dyna welodd rhai mannau ym mynyddoedd y Preseli yng ngorllewin Cymru.
Mae'r digwyddiad prin hwn ond yn digwydd mewn amodau penodol iawn a gall arwain at eira trwm.
Yn ôl y swyddfa dywydd mi fyddai'r mellt yma'n ymddangos yn fwy llachar nag arfer gan eu bod yn adlewyrchu oddi ar y plu eira.
Roedd storm eira prin yn Sir Benfro nos Iau
Yn sgil y tywydd oer mae Tîm Achub Mynydd Llanberis hefyd yn rhybuddio cerddwyr i fod yn ofalus ar rai o lwybrau mwyaf poblogaidd Yr Wyddfa.
Maen nhw'n rhybuddio bod cwympiadau eira yn bosib.
Mae Heddlu'r Gogledd hefyd wedi annog pobl i barcio'n gyfrifol os yn ymweld ag Eryri dros y penwythnos, yn dilyn trafferthion y penwythnos diwethaf.
Oherwydd y tywydd garw a'r pryder am effaith hynny ar deithio a diogelwch mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gohirio pob un o'r chwe gêm yn y Cymru Premier nos Wener.
Fe fydd y gemau hynny nawr yn cael eu chwarae ar nos Fawrth 13 Ionawr.

Eira ar strydoedd Dowlais yn ardal Merthyr Tudful
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod amodau tywydd eithafol wedi bod ar draws rhannau o Geredigion, gan annog gyrwyr i beidio â theithio oni bai bod y daith yn gwbl hanfodol.
Roedd nifer o ffyrdd ar gau ddydd Gwener oherwydd eira a choed wedi cwympo, gan gynnwys Ffordd Blaenau'r Cymoedd, rhannau o'r A483 ger Garthmyl, yr A44 rhwng Aberystwyth a Llangurig, a'r A542 ym Mwlch yr Oernant ger Llangollen.
O ran trenau, dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod gwasanaethau wedi'u canslo rhwng Abertawe ac Amwythig oherwydd eira trwm, gyda Llinell Calon Cymru ar gau rhwng Llanelli ac Amwythig, ac mae disgwyl i'r tarfu barhau tan ddiwedd y dydd.
Dywedodd Network Rail fod archwiliadau wedi canfod llinellau pŵer wedi disgyn a choed wedi cwympo ar y trac, gan olygu nad oedd modd rhedeg trenau na darparu gwasanaeth bysiau amgen.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog teithwyr i gadw golwg ar eu gwefan, dolen allanol am y diweddaraf.

Buarth Ysgol Llanfyllin, Powys yn wyn fore Gwener ac roedd yn un o nifer o ysgolion oedd ar gau

Roedd amodau gyrru gwael yng Nglynebwy ym Mlaenau Gwent nos Iau
Dywedodd CBAC, wrth i rai disgyblion sefyll arholiadau TGAU ddydd Gwener, fod canllawiau clir ar waith pe na bai modd i ysgolion agor neu i ddisgyblion deithio'n ddiogel.
Dywedodd y corff fod 129 o ddisgyblion wedi'u heffeithio mewn dwy ysgol oedd ar gau, allan o gyfanswm o dros 3,000.

Dyma ddyn yn clirio'r eira oddi ar balmant yn ardal Dowlais ym Merthyr Tudful ddydd Gwener
Dywedodd cynghorydd sir ardal Llanrhaeadr ym Mochnant a Llansilin, Aled Davies, bod eira trwm wedi bod nos iau.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru dywedodd bod "tua wyth modfedd o ddyfnder".
"Chi methu mynd trwyddo fe mewn car, a ma' rhai 4x4s yn stryglo hefyd".
"Dwi just yn gobeithio bydd y cyngor yn gallu clirio'r eira yma i ffwrdd o'r ffyrdd cyn iddo rewi heno neu bydd o'n anodd iawn bore fory."
Aeth ymlaen i ddweud bod "yr wythnos ddiwetha' ma' 'di bod yn sefyllfa anodd - mae un neu ddau o ffermwyr 'di angen twlu ffwrdd llaeth achos doedd y tanc ddim yn gallu cyrraed y buarth" meddai.
"Mae'n bwysig cael eira o'r ffyrdd yn gyflym cyn iddo fe droi'n rhew."

Ardal Llangollen yn Sir Ddinbych
Dywedodd Shon Rees o gwmni bysus Midway Motors yng Nghrymych - sydd hefyd yn gynghorydd sir yn ward Crymych a Mynachlog Ddu - fod yr amodau ar y ffyrdd yn dal i greu trafferthion.
"Mae 'di troi'n gas dros nos, gawsom ni'r tywydd yn troi yma pnawn ddoe [dydd Iau] a daeth hi lawr yn drwm ofnadwy rhwng 17:00 a 21:00.
"Roedd ffyrdd rownd ardal Crymych a gogledd Sir Benfro yn ofnadwy - trwch o eira, ond eira trwm gwlyb a oedd yn 'neud yr amodau gyrru yn ofnadwy o wael.
"Diolch bod y cyngor sir wedi bod mas yn clirio'r ffordd ac ati ac yn ceisio gwneud eu gorau, ond dal, mae heolydd cefn gwlad yn dal i fod yn ofnadwy o beryglus.
"Ni ddim ond just wedi dod dros yr amodau gwael dydd Llun.
"Ma' pawb yn joio diwrnod bach o eira ond dwi'n meddwl fod pobl yn dechrau cael llond bol nawr!"
'Gofyn i bobl fod yn glên'
Mae'r Cynghorydd Catrin MS Davies o Gyngor Sir Ceredigion yn dweud bod y sefyllfa yno yn well na'r disgwyl.
"Mae'r traffig i'w weld yn golew ar y prif ffyrdd - mae 'na lai o draffig ond mae o' i'w weld yn mynd yn iawn" ac mae'n hapus nad oes gormod o ysgolion wedi gorfod cau yn y sir.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast esboniodd bod y cyngor wedi bod yn paratoi ers rhai dyddiau.
"Mae'r criwiau wedi bod allan dros nos a drwy dydd ddoe er mwyn sicrhau bod y prif ffyrdd yn glir neu fod modd teithio arnyn nhw gyda gofal.
"Dyna'r broblem gyda'r stormydd 'ma, dydyn ni ddim yn gwybod be sy'n mynd i ddod, mae'n amhosib rhagweld."
Ond dywedodd bod "rhai pethau ni just methu neud dim byd amdanyn nhw.
"Ni methu neud dim byd am y trydan ond ry' ni yn gallu helpu os oes pobl mewn trafferth neu bobl hŷn sydd angen gofal.
"Ry' ni'n rhoi rhybuddion allan ac yn gofyn i bobl fod yn glên fel cymdogion."
Lluniau: Eira cyntaf 2026
- Cyhoeddwyd5 Ionawr
Eich lluniau: Eira cynta'r gaeaf i rannau o Gymru
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2025
Wrth siarad â'r BBC nos Iau fe ddywedodd National Grid eu bod yn "paratoi trwy'r flwyddyn i wneud yn siŵr bod ni'n barod am storm" adeg yma'r flwyddyn.
Dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Gorllewin Cymru, Andrew Davies, eu bod wedi galw mwy o weithwyr i mewn "i wneud yn siŵr bod digon o bobl gyda ni i ymateb i unrhyw fault ni'n gweld".
"Mae fwy o bobl yn y contact centres hefyd i wneud yn siŵr bod ni'n barod i ateb unrhyw alwad ni'n cael o gwsmeriaid."
Anogodd unrhyw un sy'n delio gyda thoriad i'w cyflenwad i alw 105, "sy'n mynd trwyddo i'n contact centre sydd ar agor 24/7 ac yn rhad ac am ddim".
"Os ti'n adnabod unrhyw un sydd yn fregus, gwna'n siŵr bod nhw'n cofrestru i'r priority services register."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.