Estyn yn ystyried 'mwy o bwerau i atal troseddwyr rhyw fel Neil Foden'

"Oes 'na gamau pellach allai Estyn wneud, ac yw e'n bosib i ni gael yr hawliau hynny yn y dyfodol?" gofynnodd Owen Evans
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth Estyn wedi awgrymu bod angen i'r corff arolygu ysgolion gael rhagor o bwerau er mwyn ceisio atal troseddwyr rhyw fel Neil Foden.
Fe gafodd y pedoffeil a'r cyn-bennaeth ysgol ei garcharu yn 2024 am gamdrin merched ifanc.
Ychydig fisoedd cyn iddo gael ei arestio, roedd Estyn wedi canmol prosesau diogelu adran addysg Cyngor Gwynedd, oedd yn cyflogi Foden.
Yn ôl prif arolygydd Estyn, Owen Evans, fe wnaeth y corff bopeth roedd disgwyl iddyn nhw wneud o fewn y rheolau.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod Adolygiad Diogelu mewn Addysg yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.
'Wnaeth hyn ddim peri pryder ar y pryd'
Daw hyn ar ôl i adroddiad Adolygiad Ymarfer Plant (CPR) gasglu fis Tachwedd fod asiantaethau wedi methu dros 50 o gyfleoedd i atal cyn-bennaeth Ysgol Friars, Bangor, rhag troseddu'n rhywiol yn erbyn merched ifanc.
Cafodd nifer o'r cyfleoedd hynny eu methu gan swyddogion Cyngor Gwynedd.
Er hynny, fe gafodd trefniadau diogelu yr awdurdod addysg eu canmol gan arolygwyr Estyn ym mis Mehefin 2023.
Cafodd Foden ei arestio ym mis Medi'r flwyddyn honno.

Dri mis cyn i Foden gael ei arestio, roedd Estyn wedi canmol prosesau diogelu adran addysg Cyngor Gwynedd
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C dywedodd pennaeth a phrif arolygydd Estyn bod ei dîm wedi gweithredu'n gywir.
"O ran Estyn, wnaethom ni bopeth oedd yn ddisgwyliedig," meddai.
"Roedd Estyn wedi mynd i mewn, rhoi holiaduron mas, wnaeth hyn ddim peri pryder ar y pryd.
"Fe aethom ni mewn i ysgolion, gofyn cwestiynau, ond dim ond hyn a hyn mae Estyn yn medru gwneud o fewn y ddeddfwriaeth sydd efo ni."
Roedd arolwg 2023 yn dweud bod awdurdod addysg Gwynedd yn "deall eu cyfrifoldebau" ym maes diogelu ac yn "cydweithio'n effeithiol gyda swyddogion gwasanaethau plant".
Roedd y gweithredu yn "hynod o gadarn a thrwyadl iawn" pan oedd honiadau yn codi am staff, medd yr adroddiad.
Wedi ei gynnal ar y cyd â'r arolygydd cyllid Archwilio Cymru, roedd yr arolygwyr addysg yn edrych ar brosesau a data, gyda diogelu'n un agwedd o'r gwasanaeth addysg yn ei gyfanrwydd yng Ngwynedd.
'Dros 50 o gyfleoedd wedi eu colli' i atal y pedoffeil Neil Foden
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2025
Diogelu plant: Llywodraeth yn cyfaddef bod 'rhaid gwneud mwy'
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2025
Lle i bob ysgol yn y DU ddysgu o achos Foden - awdur adroddiad
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2025
Ers i adroddiad beirniadol y CPR i achos Neil Foden gael ei gyhoeddi fis Tachwedd, mae Estyn wedi bod yn ôl yng Ngwynedd ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru i edrych yn benodol ar ddiogelu, ac wedi casglu bod yr awdurdod yn mynd i'r cyfeiriad cywir.
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymddiheuro am y methiannau, ac fe gafodd eu cynllun ymateb diweddaraf ei gymeradwyo yn yr wythnosau diwethaf.
Ond mae Estyn rŵan yn ystyried a oes angen rhagor o rymoedd arnyn nhw fel arolygwyr.
'Yw e'n bosib i ni gael yr hawliau?'
"Un o'r pethau rydyn ni wedi bod yn gwneud ydy sicrhau bod ein fframwaith ni yn ddigonol, ond hefyd edrych ar y ddeddfwriaeth," meddai Owen Evans.
"Oes 'na gamau pellach allai Estyn wneud, ac yw e'n bosib i ni gael yr hawliau hynny yn y dyfodol?
"Mae 'na le i bawb yn y system ymddiheuro. Wnaeth y system ddim be' ddylai system lwyddiannus wneud.
"Mae'r loes y mae'r plant 'ma wedi gorfod mynd trwyddo yn ofnadwy."

Dyw Julian Jones ddim yn credu mai rhoi mwy o bwerau i Estyn yw'r ateb
Ond yn ôl y cyn-bennaeth ysgol Julian Jones, ni fyddai rhoi rhagor o bwerau i arolygwyr addysg yn effeithiol.
"Dyw Estyn ddim yn arbenigo ar ddiogelwch plant. Lleygwyr ydyn nhw - cyn-athrawon, cyn-brif athrawon, pobl o ddiwydiant ac yn y blaen," meddai.
"Pan y'ch chi'n mynd i mewn, lle y'n ni'n siarad am ddigwyddiadau difrifol, mae angen cefndir cyfreithiol er mwyn edrych yn drwyadl a gofyn y cwestiynau iawn."
Angen 'newid sylfaenol' yn niwylliant Cyngor Gwynedd wedi troseddau Foden
- Cyhoeddwyd6 Chwefror
'Gormod o faich ar lywodraethwyr' - ymateb cynghorwyr i droseddau Foden
- Cyhoeddwyd19 Ionawr
Rhybudd am 'ffeiliau a ffeiliau' o gwynion am Neil Foden yn 2009
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2025
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ein blaenoriaeth yw diogelwch a lles plant a phobl ifanc, ac rydym wedi ymrwymo i weithredu'n gyflym mewn ymateb i argymhellion [adroddiad] Cyfiawnder trwy ein Dewrder.
"Rydym yn cryfhau'r system ddiogelu gydgysylltiedig, gyda'r Adolygiad Diogelu mewn Addysg yn archwilio sut mae hynny'n gweithio yn ymarferol.
"Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag Estyn, sydd â rôl arolygu hanfodol, ac edrychwn ymlaen at eu cyfraniad i'r adolygiad."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.