Stopiwch wylio Netflix os am achub tafarndai - Prif Weinidog

Eluned Morgan Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Morgan na ellir disgwyl i'w llywodraeth "gamu i mewn a gwneud y gwaith y dylai'r cyhoedd fod yn ei wneud"

  • Cyhoeddwyd

Mae angen i'r cyhoedd roi'r gorau i wylio Netflix, gadael eu cartrefi a mynd am ddiod mewn tafarndai er mwyn achub busnesau sy'n ei chael hi'n anodd, meddai Prif Weinidog Cymru.

Roedd Eluned Morgan yn siarad yn y Senedd ar ôl i'w llywodraeth gyhoeddi y bydd tafarndai, bwytai, caffis a lleoliadau cerddoriaeth fyw Cymru yn cael gostyngiad o 15% ar eu hardrethi busnes am flwyddyn.

Daeth o dan y lach yn y Senedd ynghylch strategaeth trethi busnes ei llywodraeth ar gyfer tafarndai, pan atebodd na ellir disgwyl i'r wladwriaeth "gamu i mewn" a gwneud gwaith pobl sydd ddim yn defnyddio busnesau lletygarwch.

Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ei chyhuddo o fod "wedi colli cysylltiad yn llwyr" a "beio eraill yn lle cymryd cyfrifoldeb".

Cafodd cyfundrefn trethi busnes Llywodraeth Cymru ei feirniadu ddydd Mawrth gan ap Iorwerth, a ddywedodd wrth y Senedd fod y "sector lletygarwch yn wynebu argyfwng dirfodol" a bod angen "newid brys a radical" ar y system.

Atebodd Morgan: "Os yw pobl eisiau gweld y busnesau hynny'n llwyddo, mae angen iddynt eu defnyddio.

tafarnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 200 o dafarndai wedi cau yng Nghymru rhwng 2019 a 2024

Aeth Morgan ymlaen i ddweud y dylai pobl "roi'r gorau i brynu pethau ar-lein.

"Mae angen iddyn nhw adael eu cartrefi a rhoi'r gorau i wylio Netflix" ychwanegodd.

"Mae angen iddyn nhw roi'r gorau i brynu poteli gwin a mynd allan i'r dafarn.

"Dyna realiti'r hyn sy'n digwydd yma," meddai.

"Ni allwch ddisgwyl i'r wladwriaeth gamu i mewn a gwneud y gwaith y dylai'r cyhoedd fod yn ei wneud."

Yn ddiweddarach, dywedodd ap Iorwerth: "Mae hon yn brif weinidog sydd wedi colli cysylltiad yn llwyr - mae ganddi ffordd o feio eraill yn lle cymryd cyfrifoldeb am fethiannau'r llywodraeth ei hun."

'Wynebu pwysau gwirioneddol'

Mae penderfyniad yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn dilyn camau tebyg i'r rhai gafodd eu cymryd yn Lloegr er mwyn lleddfu'r baich treth ar gwmnïau lletygarwch.

Er bydd y cynllun yn Lloegr yn para am dair blynedd, bydd y cynllun cyfatebol yng Nghymru yn para am flwyddyn.

Dywedodd Mark Drakeford y bydd y gefnogaeth ychwanegol yn helpu tua 4,400 o fusnesau i addasu i "gostau cynyddol" ac "i arferion newidiol defnyddwyr".

Bydd cynllun Llywodraeth y DU yn golygu bod tafarndai yn Lloegr yn cael gostyngiad o 15% o fis Ebrill ymlaen, a'u trethi busnes yn cael eu rhewi am ddwy flynedd arall.

Dywedodd Mark Drakeford: "Mae tafarndai, bwytai, caffis, bariau a lleoliadau cerddoriaeth fyw wrth galon cymunedau ledled Cymru.

"Rydym yn gwybod eu bod yn wynebu pwysau gwirioneddol, o gostau cynyddol i arferion newidiol defnyddwyr.

"Bydd y gefnogaeth ychwanegol hon yn helpu tua 4,400 o fusnesau wrth iddynt addasu i'r heriau hyn.

"Rydym wedi ymestyn y rhyddhad hwn i fwytai a chaffis, yn ogystal â thafarndai a lleoliadau cerddoriaeth fyw, oherwydd mewn trefi ac ar strydoedd mawr ledled Cymru mae'r busnesau hyn yn gweithredu ochr yn ochr, ac yn aml mewn cystadleuaeth uniongyrchol â'i gilydd.

"Mae'n gwneud synnwyr i roi cefnogaeth gyfartal iddynt," meddai.

Daeth y sylwadau gan y prif weinidog yn dilyn gwrthdaro ag arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar.

Fe wnaeth ef ei chyhuddo o beidio â rhoi "ateb uniongyrchol" ynghylch a fyddai Llafur yn diystyru codiadau treth incwm ar ôl etholiad nesaf y Senedd.

Pan ofynnwyd iddi, dywedodd y prif weinidog y byddai'n cael ei egluro yn eu maniffesto.

"Eich cynllun chi yw dilyn esiampl Plaid Cymru, i estyn eich dwylo'n ddyfnach i bocedi'r bobl sy'n gweithio'n galed," meddai Darren Millar.

Dywedodd Morgan: "Rydych chi eisiau torri cyfraddau sylfaenol treth incwm? Yna mae'n rhaid i chi ddweud wrth bobl y bydd yn rhaid iddyn nhw aros yn hirach i'r rhestrau aros hynny ddod i lawr."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now