Cyn-reolwr yn cyhuddo S4C o 'beidio diogelu ei hiechyd, lles a diogelwch'

Amanda ReesFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dywed cyfreithwyr Amanda Rees ei bod wedi "dioddef gofid seicolegol estynedig" oherwydd yr amodau o fewn S4C

GanGwyn Loader
Prif ohebydd Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae un o gyn-reolwyr S4C wedi cyhuddo'r darlledwr o "beidio diogelu ei hiechyd, lles a diogelwch".

Amanda Rees yw'r trydydd cyn-uwch reolwr S4C i ddwyn achos uchel lys yn erbyn S4C yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae S4C wedi dweud nad ydyn nhw'n dymuno gwneud sylw ar y mater.

Ym mis Hydref y llynedd, setlwyd hawliad am anaf personol gan gyn-brif weithredwr y darlledwr, Sian Doyle, yn erbyn S4C a'r cyn-gadeirydd Rhodri Williams.

Mae rhaglen Newyddion S4C yn deall bod hawliad diogelu data cyn-brif swyddog cynnwys S4C, Llinos Griffin-Williams, yn erbyn y darlledwr a Rhodri Williams hefyd ar fin cael ei setlo.

Cafodd Ms Griffin-Williams ei diswyddo am gamymddwyn difrifol ym mis Hydref 2023 wedi honiadau iddi ymosod yn eiriol ar gyn-fewnwr Cymru Mike Phillips tra'n feddw yng Nghwpan Rygbi'r Byd.

Mae Ms Griffin-Williams yn gwadu'r cyhuddiadau.

Mewn datganiad gan gyfreithwyr Amanda Rees, Irwin Mitchell, honnir i uwch-reolwyr a bwrdd S4C "fethu â goruchwylio proses [newidiadau mewnol], a weithredwyd mewn modd anaddas a gor-rymus, yn ddigonol".

Dywed ei chyfreithwyr bod yna ddiwylliant gwaith "gwenwynig" o fewn S4C ar y pryd, lle roedd "bwlio yn digwydd dan rith newidiadau mewnol".

Cafodd y cyn-brif weithredwr Sian Doyle ei diswyddo ym mis Tachwedd 2023 ar ôl cael ei chyhuddo o fod yn "unben" a "chreu diwylliant o ofn".

Dywedodd Ms Doyle ar y pryd nad oedd hi'n "adnabod nac yn derbyn yr honiadau".

Yr Egin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Amanda Rees yn honni ei bod wedi codi pryderon ynghylch dulliau rheoli sawl gwaith cyn ymddiswyddo o S4C ym mis Hydref 2023

Yn ôl Irwin Mitchell, mae Amanda Rees wedi "dioddef gofid seicolegol estynedig" a "methiant ar y galon a arweiniodd at driniaeth ysbyty a thriniaeth feddygol sydd yn parhau".

Mae cyfreithwyr y cyn-gyfarwyddwr cynnwys a chyn-gyfarwyddwr platfformau yn honni iddi godi pryderon am ddulliau rheoli sawl gwaith.

Ymddiswyddodd Amanda Rees ym mis Hydref 2023.

Doedd Ms Rees ddim ar gael i wneud cyfweliad, ond mae'n cael ei dyfynnu yn natganiad ei chyfreithwyr.

Dywedodd: "Roeddwn i'n caru fy ngwaith ac roedd S4C, ei phwrpas a'r bobl roeddwn i'n gweithio gyda nhw yn agos at fy nghalon.

"Dros amser serch hynny, roeddwn yn gallu gweld bod ei gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus yn cael eu herydu ac fe drodd yr awyrgylch yn un anniogel oedd yn achosi ofn.

"Roeddwn yn teimlo wedi fy sarhau a fy nhanseilio yn gyson, wrth geisio parhau mewn rôl flaenllaw gyda chyfrifoldeb am les eraill."

'Effaith ddifrifol ar fy ngyrfa'

Ychwanegodd: "Effeithiodd y straen arna i'n fawr. Es i o fod yn hyderus ac yn frwdfrydig am fy ngyrfa i fod yn bryderus, ofnus a ddim yn dda.

"Dioddefais fethiant ar y galon fel canlyniad uniongyrchol - digwyddiad sydd wedi newid fy mywyd ac wedi fy ngadael gyda symptomau trawma a phryder.

"Mae'r effaith ar fy ngyrfa wedi bod yn ddifrifol a dwi'n parhau i fyw gyda hynny.

"Dwi heb ddod â'r camau cyfreithiol yma ar chwarae bach. Nodais fy mhryderon drwy law fy nghyfreithwyr gydag S4C ym mis Ionawr 2025, gan obeithio y byddai'r bwrdd a'r uwch-arweinwyr yn cydnabod y niwed i fi, ond ni wnaethon nhw hynny.

"Rwyf wedi cymryd y cam hwn gan fy mod yn teimlo bod angen rhoi sylw cywir i'r materion hyn a ddylen ni ddim caniatáu i'r gwirionedd am yr hyn ddigwyddodd beidio â chael ei glywed.

"Dwi ddim yn teimlo gall corff wneud newidiadau positif ac ystyrlon, heb fod yn ymwybodol ac yn atebol am gamgymeriadau'r gorffennol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now