Trydydd cyn-uwch reolwr S4C yn dwyn achos yn erbyn y sianel

- Cyhoeddwyd
Mae un arall o gyn-swyddogion S4C yn dwyn achos llys yn erbyn eu cyn-gyflogwr.
Amanda Rees yw'r trydydd cyn-aelod o dîm rheoli'r darlledwr cyhoeddus i ddwyn achos yn erbyn S4C yn y ddwy flynedd diwethaf.
Doedd S4C ddim am wneud sylw am yr hawliad diweddaraf.
Pan siaradodd Newyddion S4C gydag Amanda Rees, doedd hi chwaith ddim am wneud sylw.
Yn ôl dogfennaeth gyhoeddus, cofnodwyd hawliad ganddi yn erbyn S4C am anaf personol yn yr Uchel Lys ym mis Chwefror eleni.
Dyw'r dogfennau yn amlinellu ei chwyn ddim ar gael yn gyhoeddus eto.

Mae Amanda Rees wedi bod yn ffigwr amlwg yn y byd darlledu yng Nghymru a thu hwnt.
Roedd yn uwch-gynhyrchydd gyda chwmni Greenbay cyn sefydlu ei chwmni cynhyrchu ei hun oedd yn arbenigo mewn rhaglenni dogfen ar faterion dyrys i amryw o ddarlledwyr gan gynnwys Channel 4.
Yn 2016, ymunodd â S4C fel cyfarwyddwr cynnwys cyn dod yn gyfarwyddwr platfformau i'r darlledwr.
Ar ôl gadael S4C, bu'n aelod o sawl sefydliad amlwg ym myd darlledu, gan gynnwys dod yn gyfarwyddwr anweithredol ar bwyllgor ymgynghorol Cymreig Ofcom ac yn gadeirydd Ffilm Cymru.
Dyma'r ergyd ddiweddaraf i S4C wedi iddi wynebu hawliadau cyfreithiol amlwg gan ei chyn-brif weithredwr a'i chyn-brif swyddog cynnwys dros y blynyddoedd diwethaf.
Siân Doyle wedi ei diswyddo fel prif weithredwr S4C
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2023
Siân Doyle yn beirniadu penderfyniad S4C i'w diswyddo
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2023
S4C yn dod i setliad gyda'r cyn-brif weithredwr Siân Doyle
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2025
Cafodd Sian Doyle ei diswyddo o'i swydd fel prif weithredwr ym mis Tachwedd 2023 ar ôl cael ei chyhuddo o "ymddwyn fel unben" ac o "greu diwylliant o ofn".
Ar y pryd, dywedodd Ms Doyle nad oedd hi'n "adnabod nac yn derbyn yr honiadau".
Daeth cadarnhad o'i diswyddiad yn fuan cyn cyhoeddi adroddiad gan gwmni cyfreithiol Capital Law.
Comisiynwyd yr adroddiad hwnnw gan y cyn-gadeirydd Rhodri Williams wedi i undeb llafur Bectu gwyno am fwlio o fewn y darlledwr.
Wedi i Sian Doyle ddwyn hawliad anaf personol yn erbyn S4C a'r cyn-gadeirydd, roedd setliad yn yr achos y llynedd.
Dyw cost y setliad heb ei ddatgelu yn gyhoeddus a doedd dim un o'r partïon yn cydnabod unrhyw fai.
Y gred yw i'r setliad ddod ar gyngor cyfreithwyr ac yswirwyr S4C a Rhodri Williams.
Ni chafodd unrhyw arian cyhoeddus ei wario ar y setliad ei hun, ond doedd dim trafodaethau wedi bod ar y pryd am unrhyw effaith ar bremiymau yswiriant.
Pan ofynnwyd y cwestiwn eto i S4C, dywedodd llefarydd nad oedden nhw am wneud unrhyw sylw.
Setliad wedi 'dod â'r mater i ben'
Wedi'r setliad, dywedodd gŵr Ms Doyle, Rob, eu bod "wrth eu boddau" gyda'r setliad oedd yn "datrys yr holl broblemau rhyngom, yn osgoi'r angen am wrandawiadau llys hirhoedlog a chost bellach i'r trethdalwr - gan ganiatáu hefyd ddatrysiad cyflymach a chyfle am gau pen y mwdwl ar y mater a chaniatáu i ni barhau gyda'n bywydau".
Ychwanegodd bod ei wraig wedi "rhoi rhodd bersonol sylweddol i elusen sydd yn ymwneud ag anhafaledd rhyw yn y gweithle".
Dywedodd S4C ar y pryd y byddai parhau gyda phrosesau cyfreithiol wedi golygu "amser, cost a straen sylweddol i bawb dan sylw".
"Mae'r partïon yn falch o fod wedi datrys eu gwahaniaethau ac o fod wedi dod â'r mater i ben."
"Yn dilyn y mater hwn, cynhaliodd S4C adolygiad llywodraethu annibynnol ac mae eisoes wedi cyflwyno Cod Diwylliant newydd a chamau, ymysg mesurau eraill, i gefnogi Awdurdod Annibynnol Safonau'r Diwydiannau Creadigol (CIISA) er mwyn sicrhau bod gwerthoedd S4C yn cael eu cynnal ar a thu hwnt i'r sgrin.
"Ni fydd S4C yn gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater hwn."

Cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo yn 2023
Mae achos arall, ar wahân i'r hawliadau eraill, gan gyn-bennaeth cynnwys y darlledwr yn parhau.
Cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo yn 2023 am gamymddwyn difrifol wedi honiadau iddi fod yn feddw ac ymosod yn eiriol ar gyn-fewnwr Cymru, Mike Phillips tra yn ymweld â Chwpan Rygbi'r Byd yn Nantes fel rhan o'i gwaith.
Mae Ms Griffin-Williams yn gwadu ymddwyn "mewn modd sydd yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol mewn man cyhoeddus" ac yn dweud y byddai wedi gwadu hynny petai hi wedi cael cyfle i ymateb.
Mae nawr yn hawlio £565,000 mewn colledion a symiau anhysbys pellach am niwed i'w henw da, ei hiechyd a'i theimladau.
Mewn dogfennau llys, mae'n honni bod unigolion eraill oedd yn gweithio i S4C oedd wedi wynebu cyhuddiadau o gamymddwyn difrifol heb gael eu diswyddo heb gyfle i ymateb. Dyw'r dogfennau llys ddim yn enwi unrhyw unigolion o'r fath.
O ran achos Ms Griffin-Williams, dywedodd llefarydd ar ran S4C y llynedd eu bod eisoes wedi cyflwyno amddiffyniad i'r llys ac na fyddai'n briodol i wneud sylw pellach ar honiadau sydd heb gael eu clywed eto mewn achos llys.
Ychwanegodd y llefarydd: "Fel nodwyd yn ein hamddiffyniad i'r llys, nid oes cofnod o gwynion am yr ymddygiad amhriodol honedig gan unrhyw aelod arall o staff S4C."
Dywedodd hefyd bod yr honiadau'n deillio o gyfnod dros ddwy flynedd yn ôl, ac ers hynny bod S4C "wedi bod trwy gyfnod o drawsnewid o ran llywodraethant, rheolaeth a diwylliant i sicrhau bod yma weithle iach lle gall pawb ffynnu".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Medi 2025

- Cyhoeddwyd2 Mai 2023

- Cyhoeddwyd27 Ionawr
