'Angen trafodaeth anodd a gonest' dros gau un o ysgolion uwchradd Môn
Beth oedd y farn yn Amlwch i'r syniad o gau ysgol?
- Cyhoeddwyd
Mae angen "trafodaeth anodd a gonest" am y posibilrwydd o gau un o bum ysgol uwchradd Ynys Môn, yn ôl cynghorydd sy'n poeni am leihad yn nifer y disgyblion.
Yn 1977 Ysgol Uwchradd Bodedern oedd y pumed ysgol uwchradd i agor yn y sir, gyda'r gweddill yng Nghaergybi, Llangefni, Amlwch a Phorthaethwy.
Ond mae gostyngiad sylweddol wedi bod yng nghyfradd geni'r ynys dros y blynyddoedd diwethaf, ac yng Nghymru a Lloegr dim ond Ynysoedd Sili a Richmond upon Thames sydd wedi dangos mwy o gwymp dros y degawd diwethaf.
O ganlyniad, tra cafodd 763 o fabanod eu geni i famau oedd yn byw ar yr ynys yn 2013, erbyn 2023 roedd y ffigwr wedi gostwng 36% i 486.
Yn ôl un cynghorydd annibynnol ar yr ynys, mae'r cwymp yn nifer y plant yn golygu bod angen trafod a ydy'n gynaliadwy i gadw pump o ysgolion uwchradd os ydy'r patrwm presennol yn parhau.

Mae'r cynghorydd annibynnol, Douglas Fowlie, yn dweud bod y niferoedd presennol yn codi cwestiwn dros yr angen am bum ysgol uwchradd ar yr ynys
Mewn cyfarfod diweddar o'r cyngor llawn dywedodd y Cynghorydd Douglas Fowlie bod "yn rhaid adolygu'r sefyllfa bresennol" a "gwneud penderfyniadau anodd" os oes angen.
Ychwanegodd bod yn rhaid sicrhau bod trethdalwyr yn "cael gwerth am arian".
Yn ôl ffigyrau StatsCymru, dolen allanol, yn 2003/04 roedd 4,890 yn mynychu ysgolion uwchradd yr ynys. Ond erbyn 2018/19 roedd y nifer lawr i 3,760.
Mae'r ffigyrau diweddaraf ar gyfer 2024/25 yn dangos bod rhywfaint o adferiad wedi bod, gan gyrraedd 4,105.
Dywedodd y Cynghorydd Fowlie, sy'n cynrychioli ward Crigyll ac ddim yn perthyn i unrhyw grŵp gwleidyddol ar y cyngor, ei fod yn derbyn na fydd yn drafodaeth sy'n boblogaidd gyda phawb.
"Be' rydan ni'n ei weld ydy does na'm y plant ar yr ynys, ac yn fy marn i 'da ni angen cau un ohonyn nhw", meddai'r Cynghorydd Fowlie wrth BBC Cymru, gan ychwanegu bod arian hefyd yn ffactor.
"Dwi'n siwr fydd lot o bobl ddim yn hapus... ond 'da ni'n gorfod gwneud y penderfyniadau anodd a dyna sut dwi'n teimlo.
"Mae o'n broblem [y cyfradd geni] ers peth amser."
Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn gefnogol o gadw ysgolion cynradd ar agor, gan eu disgrifio fel "calon sawl cymuned".
Ond ychwanegodd bod y sefyllfa yn y sector uwchradd, ac "yn arbennig yng ngogledd yr ynys", o bryder penodol.
Er bod lle i tua 971 o ddisgyblion yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, yn Nhachwedd 2025 dim ond 479 o ddisgyblion oedd yn yr ysgol - sef 55%.
"'Da ni'n gorfod gweld os ydy Wylfa'n dod," meddai.
"Ond o edrych ar rai o'r ysgolion hŷn, a dwi'n defnyddio Amwlch fel enghraifft, mae'n adeilad hen iawn.
"Fyswn yn licio gwybod faint mae'n ei gostio o ran yswiriant, faint mae'n ei gostio i'w gynhesu. Beth ydy'r buddsoddiad yn yr ysgol ac ydy o'n hyfyw?
"I mi, mae o'n economeg syml iawn.
"'Da ni'n edrych ar atebion tymor byr... ond does neb eisiau bod yn amhoblogaidd."
'Cynamserol i ystyried newidiadau sylweddol'
Yn 2018 roedd Cyngor Môn yn ystyried cynlluniau i ehangu adeilad Ysgol Syr Thomas Jones, ond gyda chwech o ysgolion cynradd lleol yn cau a symud eu disgyblion yno.
Dewis arall oedd dan ystyriaeth ar y pryd oedd i gau'r ysgol uwchradd yn gyfan gwbl, gyda'r disgyblion yn symud i un o'r pedair ysgol uwchradd arall ar yr ynys, gan adeiladu ysgol ardal newydd yn y sector cynradd.
Ond ni welodd unrhyw un o'r syniadau olau dydd wrth i'r awdurdod benderfynu i stopio'r broses.
Mae'r pryderon wedi parhau, serch hynny, gydag adroddiad Estyn ar Gyngor Môn yn dod i'r casgliad bod nifer y llefydd gweigion yn dal i fod yn "gymharol uchel" yn y sector uwchradd.
Roedd hynny er bod cynnydd wedi ei wneud yn y sector cynradd - drwy adeiladu tair ysgol newydd, gwella ac ehagngu dwy ysgol a chau 11 ysgol.
Roedd ffigyrau'r cyngor ym Mawrth 2023 yn dangos bod y ffigwr llefydd gweigion ar draws y pum ysgol uwchradd yn 21%.

Dylan Williams: "Nid yw'r sefyllfa sydd yn wynebu Ynys Môn yn wahanol i ardaloedd gwledig eraill led led Cymru"
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Môn ei fod yn "gynamserol i ystyried newid sylweddol i ddarpariaeth addysg uwchradd" ar hyn o bryd.
Roedd hyn, meddai Dylan Williams, oherwydd "diffyg manylion ac ansicrwydd dros amserlen ac effaith posib" datblygiadau megis Porthladd Rhydd Ynys Môn a gorsaf niwclear newydd Wylfa.
"Mae'r cyngor sir yn derbyn, ac yn llawn ymwybodol o heriau ac oblygiadau'r newid demograffig ar draws yr ynys, yn enwedig yn y gogledd," meddai Mr Williams mewn datganiad i BBC Cymru.
"Fodd bynnag, nid yw'r sefyllfa sydd yn wynebu Ynys Môn yn wahanol i ardaloedd gwledig eraill ledled Cymru.
"Mae ystyried y newidiadau yma'n rhan o waith parhaol wrth gynllunio i ddarparu gwasanaethau heddiw, ac i'r dyfodol. Mae darparu addysg yn rhan o'r ystyriaethau yma."
Ychwanegodd: "Gyda diffyg manylion ac ansicrwydd ynghlwm ag amserlen ac effaith posib y datblygiadau mawr, megis Porthladd Rhydd Ynys Môn a gorsaf niwclear newydd y Wylfa, mae'n gynamserol i ystyried newid sylweddol i ddarpariaeth addysg uwchradd ar yr ynys.
"Mae ein ffocws ar hyn o bryd ar gael trwy'r holl brosesau angenrheidiol er mwyn gallu codi adeilad newydd i Ysgol Uwchradd Caergybi."
'Patrwm tebyg ar draws y byd gorllewinol'
Mae rhagolygon Llywodraeth Cymru yn awgrymu bydd lleihad o bron i 50,000 yn nifer y disgyblion ar draws Cymru erbyn 2040.
Mae'r Athro Rhys Jones, sy'n Athro Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth, o'r farn bydd sawl ardal yn gweld heriau tebyg dros y blynyddoedd i ddod, gyda chynghorau hefyd yn gorfod ailddylunio'r math o wasanaethau maen nhw'n gallu eu cynnig.
"'Wy'n credu bod angen sgwrs adeiladol, gall, falle yn yr ardaloedd gwledig hyn ar gyfer cynllunio rhagweithiol," meddai, gan nodi ei fod yn batrwm sy'n cael ei weld ar draws y byd gorllewinol.

Yn ôl y daearyddwr yr Athro Rhys Jones mae'n batrwm sy'n cael ei weld ar draws Cymru wledig erbyn hyn
"Mae'n rhannol oherwydd y cyfradd geni îs ond hefyd oherwydd bod proses o fudo wedi bod yn digwydd i siroedd gwledig yng Nghymru, sy'n tueddu i fod yn bobl hŷn.
"Mae'n rhan o batrwm ehangach sy'n arwain at gwestiynau eithaf sylfaenol i awdurdodau gwledig wrth iddynt geisio cynllunio ar gyfer poblogaeth sy'n newid, sy'n lleihau, sy'n heneiddio, gan greu goblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer y mathau o wasanaethau [y maen nhw'n gallu eu cynnig]."
Ond gyda £25m wedi ei neulltio yn ddiweddar i ddatblygu Porthladd Rhydd ym Môn, a chynlluniau hirdymor ar gyfer datblygiad niwclear ar yr ynys, mae'r Athro Jones yn credu y gall wneud gwahaniaeth.
"Fe all datblygiadu o'r fath gadw pobl ifanc yn yr ardal leol, pobl fydd o bosib maes o law yn magu plant... mae lle am sgwrs ehangach yma os ydy pobl yn magu plant oherwydd y costau ac yn y blaen.
"Nid just cyflogaeth sy'n bwysig yma, ond mae cyflogaeth yn siwr o fod yn help. Dyw e ddim yn ateb syml, ond yn sicr mae creu y cyfleon cyflogaeth yma'n ran o'r ateb o ran cynnal gwasanaethau megis ysgolion."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd22 Mai 2025

- Cyhoeddwyd3 Mai 2019
