Penodi Cymry yn Gaplaniaid Anrhydeddus i'r Brenin am y tro cyntaf

Parchedig Llywelyn Moules-JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Parchedig Llywelyn Moules-Jones, sydd yn arweinydd ardal weinidogaeth Bro Dwynwen, ar Ynys Môn, yn un o'r chwech sydd wedi eu dewis

  • Cyhoeddwyd

Am y tro cyntaf erioed, mae clerigwyr o'r Eglwys yng Nghymru wedi eu penodi yn Gaplaniaid Anrhydeddus i'r Brenin.

Un o'r chwech sydd wedi eu dewis ydy'r Parchedig Llywelyn Moules-Jones, sydd yn arweinydd ardal weinidogaeth Bro Dwynwen, ar Ynys Môn.

Mae Caplaniaid Anrhydeddus y Brenin yn uwch-glerigwyr yn y Deyrnas Unedig sy'n cael eu penodi gan y Brenin fel modd o gydnabod gwasanaeth nodedig, yn ôl yr Eglwys yng Nghymru.

Dywedodd y Parch Moules-Jones, sy'n fab fferm ac wedi bod yn ymwneud â'r byd amaeth erioed, ei fod yn gobeithio "hyrwyddo cefn gwlad Cymru" yn ei rôl newydd.

Yn siarad ar raglen Post Prynhawn, dywedodd: "Oedd 'na ryw arlliw fod 'na rhywbeth yn mynd ymlaen ryw 'chydig o wythnosau yn gynt, ond pan ddath o roedd o'n dipyn o syrpreis."

Fel un o Gaplaniaid Anrhydeddus i'r Brenin, mi fydd y Parch Moules-Jones yn gweinidogaethu i'r Brenin o dro i dro.

"Mae'n golygu mynd lawr i Lundain i bregethu yn rhai o eglwysi'r Teulu Brenhinol, y capel Brenhinol, y Chapel Royal, Abaty Westminster, Windsor - 'da ni'n gorfod mynd dwywaith y flwyddyn i wneud hynny," meddai.

"Dwi hefyd ar ddeall fod rhaid i ni fod ar gael am ambell i briodas neu angladd, a hefyd dwi'n meddwl fod 'na wahoddiad i ambell i un o'r garden parties 'ma lle maen nhw angen caplaniaid, ma'n debyg, ar gyfer y bobl sydd yn dod yno."

'Hyrwyddo cefn gwlad Cymru'

Yn draddodiadol, roedd Caplaniaid Anrhydeddus y Brenin yn cael eu dewis o blith gweinidogion Eglwys Loegr ac Eglwys yr Alban, ond gallant hefyd gynnwys enwadau eraill. Dyma'r tro cyntaf i glerigwyr yr Eglwys yng Nghymru gael eu penodi.

Dywedodd y Parch Moules-Jones nad oedd yn gwybod y rheswm dros y penodiad ond ei fod yn credu fod y nifer o gaplaniaid o Loegr ac o'r Alban wedi'i leihau "er mwyn gwneud lle ar gyfer y rhain o Gymru".

"Mi wnes i ofyn y cwestiwn ond ches i ddim ateb, wel ddim un digonol beth bynnag," meddai.

"O be' dwi'n ddeall, mae'r Brenin yn ymwybodol iawn o fy nghefndir i yn y byd ffermio a chefn gwlad ac efallai dyna un o'r rhesymau ces i'r gwahoddiad yn y lle cyntaf.

"Mae o, wrth gwrs, yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod o yn ddyn sy'n mwynhau popeth i'w wneud a chefn gwlad."

Ychwanegodd: "Dwi'n gobeithio os gai'r cyfle i hyrwyddo cefn gwlad Cymru mi fyddai'n sicr yn gwneud hynny."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now