Pam bod gwyddbwyll yn cael adfywiad yn Sir Benfro?

Llun yn dangos dau blentyn ifanc yn eistedd wrth fwrdd, yn chwarae gwyddbwyll.Ffynhonnell y llun, Clwb Gwyddbwyll Abergwaun
Disgrifiad o’r llun,

Wyth oed ydy aelod ieuengaf clybiau gwyddbwyll Sir Benfro

GanJeia Puri-Evans
  • Cyhoeddwyd

Un clwb gwyddbwyll yn unig oedd yn Sir Benfro'r llynedd.

Nawr, mae tri chlwb newydd wedi agor, a'r gobaith ydy sefydlu sawl mwy cyn diwedd y flwyddyn.

"Mae pobl yn camu i ffwrdd o'u sgriniau," meddai Kevin Heady, sef yr un sy'n gyfrifol am y don newydd o glybiau.

Esboniodd mai dim ond pedwar o'r aelodau oedd erioed wedi cystadlu wyneb yn wyneb cyn ymuno â chlwb - roedden nhw'n ymarfer ar-lein yn lle.

"Dyw e ddim fel bo ni'n hen ddynion yn dod nôl at y gêm, mae'r rhain yn (chwaraewyr) newydd sbon" meddai Kevin.

Mewn 10 mis mae nifer aelodau'r clybiau wedi cynyddu i 130 - sy'n gynnydd o 206%.

"Mae'n anhygoel beth sy'n digwydd yn y Sir ar hyn o bryd" medd un aelod.

Mae'r clybiau newydd wedi'u lleoli yng nghanol trefi Hwlffordd, Arberth ac Abergwaun.

Roedd Kevin yn teimlo bod lleoliad canolog yn elfen hanfodol o sefydlu'r clybiau, er mwyn ceisio sicrhau nad yw pobl yn gorfod teithio yn bell i'w clwb a bod pobl newydd yn gallu darganfod y clybiau a cherdded mewn.

Map yn dangos lleoliadau'r clybiau gwyddbwyll newydd, a'r rhai sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad ydy sicrhau fydd saith clwb gwyddbwyll yn y Sir erbyn diwedd y flwyddyn, gan gynnwys y clwb gwreiddiol yn Aberdaugleddau

Teimlo bod rhywbeth ar goll yn yr ardal oedd prif reswm Kevin tu ôl sefydlu'r clybiau newydd.

Ar ôl symud yn ôl i'r Sir, aeth i chwilio am glwb cyn sylweddoli mai dim ond un clwb oedd yn dal i fodoli.

Dywedodd iddo feddwl i'w hun "'I le maen nhw gyd wedi mynd? Maen nhw gyd wedi diflannu'."

Fe aeth draw i'r clwb yn Aberdaugleddau, lle'r oedd "dim ond tua 6 aelod" yno, a meddyliodd "mae'n rhaid bod 'na bobl allan yno sydd eisiau gwneud rhywbeth".

Felly fe gynhaliodd Kevin sesiwn gwyddbwyll mewn siop yn Abergwaun.

"O'n i'n disgwyl bod adref mewn hanner awr... ond fe gerddodd rhywun mewn, ac yna rhywun arall."

Chwe wythnos yn ddiweddarach, roedd rhaid i'r clwb symud i leoliad mwy.

Erbyn hyn, mae dros 50 o aelodau yn mynychu'r sesiynau yng nghlwb rygbi Abergwaun.

"O feddwl be' ydy poblogaeth Abergwaun a Wdig, mae'n anhygoel," meddai Kevin.

Os doedd twf y clwb ddim yn ddigon i ddathlu, mae gan Glwb Gwyddbwyll Abergwaun nawr bencampwr Cymru dan 9 oed ymhlith eu haelodau - rhywbeth maen nhw'n falch iawn ohono.

Llun yn dangos bachgen ifanc efo gwallt brown wedi gwisgo'n smart, yn gafael mewn draig goch a phlac sy'n darllen 'Welsh Under 9 Championship Trophy'.Ffynhonnell y llun, Clwb Gwyddbwyll Abergwaun
Disgrifiad o’r llun,

Daarshik Halder ydy pencampwr Cymru cyntaf Clwb Gwyddbwyll Abergwaun, yn ennill y teitl yn wyth oed

"Bywiog" ydy'r gair mae Jonathan Twigg yn ei ddefnyddio i ddisgrifio awyrgylch y clybiau.

"Er bod gwyddbwyll yn gallu bod yn gêm dawel, mae 'na sgwrs, ac mae'r ochr gymdeithasol yna.

"Os 'ych chi ddim yn chwarae, chi'n gwylio a siarad gydag eraill", meddai.

Dywedodd Kevin: "Galle ti gael y chwaraewr ieuengaf yn chwarae'r un hynaf, a dyw e ddim o bwys.

"Beth sydd lawr ar y bwrdd sy'n bwysig."

Llun yn dangos ystafell llawn pobl yn chwarae gwyddbwyll, mewn clwb rygbi.Ffynhonnell y llun, Clwb Gwyddbwyll Abergwaun
Disgrifiad o’r llun,

Mae 30% o aelodau Clwb Gwyddbwyll Abergwaun yn aelodau iau

Gêm 'gynhwysol'

"Mae'n beth cymdeithasol i bobl fydde fel arall dim yn mynd allan gyda'r nos", meddai Kevin.

"Mae'n denu llawer o bobl sy'n niwrowahanol, achos bod e'n gêm ddadansoddol."

Dywedodd mai mynychu'r clwb gwyddbwyll ydy'r unig bryd mae un aelod ifanc niwrowahanol yn rhyngweithio gydag eraill yn gymdeithasol, y tu allan i'r ysgol.

Mae'r rhieni'n dweud eu bod wedi gweld datblygiad yn y plentyn, a dywedodd Kevin ei fod ef hefyd wedi gweld gwahaniaeth.

Dywedodd mai tawelwch y gemau a'r ffaith nad oes torfeydd mawr sy'n gallu bod yn ddeniadol i bobl sy'n niwrowahanol.

Llun yn dangos ystafell llawn pobl yn chwarae gwyddbwyll.Ffynhonnell y llun, Clwb Gwyddbwyll Arberth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Clwb Gwyddbwyll Arberth wedi "tyfu yn gynt nag unrhyw un o'r clybiau eraill" trwy ddenu 28 aelod mewn pedair wythnos

Mae Jonathan, athro ymarfer corff yn Hwlffordd, yn credu bod gwyddbwyll yn gamp "coll" ymysg plant.

"Dwi'n teimlo bod o'n ffordd o gyfathrebu i'r plant," meddai.

Ychwanegodd fod y gamp yn dysgu gwerthoedd pwysig i rywun, ac y gall fod yn beth bositif i ysgolion ei chofleidio, yn enwedig pan fo pwysau academaidd yn tyfu.

"Bydde ni'n caru gweld mwy ohono fe mewn ysgolion a dweud y gwir.

"Mae e'n sgil bywyd yn ei hun, am sut i ddeall pethau - derbyn dy fod di'n mynd i gael dy guro.

"Ond pan gei di'r cyfle i ennill, does dim teimlad gwell."

Llun yn dangos dau fachgen ifanc yn gwenu at y camera mewn crysau t oren a glas.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dyma Deian a Hari-Jac yn modeli eu cit gwyddbwyll newydd

Meddai mam i ddau o Faenclochog, Carolyn Watkins, bod y clwb gwyddbwyll yn "rhywbeth braf i'r plant wneud gyda'i gilydd tu allan i'r ysgol"

Ychwanegodd fod y gamp "wedi dysgu gwydnwch" iddyn nhw.

"Mae 'na adegau mewn bywyd lle 'ych chi ddim yn cael y canlyniad chi eisiau.

"Ond os 'ych chi'n gweithio tuag at rywbeth, chi lot fwy tebygol o lwyddo ac mae gwyddbwyll 'di dysgu hwnna i'r bechgyn," meddai.

Dywedodd un o'i meibion, Hari-Jac sy'n 12 oed, ei fod yn mwynhau dysgu oddi wrth aelodau eraill o'r clwb.

"Mae mor gymaint o bobl yn dod, mae mor gymaint o strategaethau ti'n gallu dysgu".

Yn ôl Deian, sy'n 11 oed, fe ddysgodd chwarae gwyddbwyll tua blwyddyn yn ôl, ond mae'n mwynhau'r gamp am ei fod yn "heriol" a "hwyl".

Dywedodd hefyd bod gwefannau gwyddbwyll yn gallu bod yn ddefnyddiol i ymarfer, ond bod yn well ganddo chwarae wyneb yn wyneb.

Mae'r ddau frawd yn "argymell" y clybiau fel llefydd delfrydol i ddysgu'r gamp o'r newydd.

"Mae'r bobl yn gyfeillgar ac yn helpu ti mas," meddai Hari-Jac.

Llun yn dangos ystafell llawn pobl yn chwarae gwyddbwyll.Ffynhonnell y llun, Clwb Gwyddbwyll Hwlffordd
Disgrifiad o’r llun,

"Bob wythnos mae 'na berson newydd yn cerdded mewn" i'r clwb yn Hwlffordd, yn ôl Kevin

Un o hoff bethau Kevin am y clybiau ydy gweld perthnasoedd yn datblygu, tra mae'n eistedd yng nghefn y clybiau yn gwneud ei waith papur.

Mae'n mwynhau gweld pobl "wedi dod allan, yn sgwrsio gyda phobl dydyn nhw erioed wedi cwrdd ag o'r blaen a chael amser da."

Wrth eistedd yno, mae'n meddwl i'w hun "ie, dyma be ddylai fe fod."

Mae Kevin yn bwriadu sefydlu clybiau yn Ninbych-y-pysgod, Penfro a Thyddewi erbyn diwedd y flwyddyn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now