Carcharu dyn ifanc ar ôl iddo gyfaddef llofruddio ei fam gyda morthwyl

Fe brynodd Tristan Roberts, 18 oed, arfau ar-lein a chyhoeddodd ei fwriad i ladd ei fam ar y platfform cyfryngau cymdeithasol Discord
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai rhai manylion yn y stori isod beri pryder.
Mae dyn ifanc o Sir Ddinbych wedi ei garcharu am oes ar ôl cyfaddef llofruddio ei fam.
Mi fydd rhaid i Tristan Roberts, 18 oed o Brestatyn dreulio o leiaf 22.5 mlynedd dan glo.
Cafwyd hyd i Angela Shellis, 45 oed o Brestatyn, yn farw ger gwarchodfa natur yn ardal Morfa'r dref ar 24 Hydref 2025.
Ymddangosodd Tristan Roberts, ei mab 18 oed, yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher.
Dywedodd yr erlynydd Andrew Thomas bod Tristan Roberts, 18, wedi "cynllunio yn helaeth ymlaen llaw dros sawl wythnos" a bod yr ymosodiad wedi digwydd dros gyfnod o fwy na phedair awr.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cadarnhau eu bod nhw "ynghyd â sefydliadau partner, wedi cyfeirio'r achos at Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru".

Cafodd Angela Shellis, 45, ei pherswadio gan ei mab i'w ddilyn i barc cyfagos am 03:30 lle cafodd ei churo i farwolaeth
Erbyn adeg y llofruddiaeth, roedd Angela Shellis yn byw gyda Tristan Roberts yn eu cartref yn Conniston Drive, gyda'i mab hynaf Ethan wedi dychwelyd i'r brifysgol.
Roedd Ms Shellis, yn wreiddiol o Dywyn yng Ngwynedd, yn gynorthwyydd dysgu yn Ysgol Uwchradd y Rhyl.
Roedd y diffynnydd, wedi bod yn cynllunio'r ymosodiad ers sawl wythnos.
Fe brynodd sawl arf ar-lein gan gynnwys cyllyll, morthwylion a bwyall.
Yn ogystal, roedd o wedi prynu dillad amddiffyn a dyfais recordio sain er mwyn recordio ei hun yn cyflawni'r llofruddiaeth.
Clywodd y llys sut y gwnaeth o dreulio sawl awr yn chwilio am ffyrdd i ladd, achosion o lofruddiaethau ac arfau.
Fe ddefnyddiodd blatfform Discord gan bostio negeseuon yno yn nodi ei fwriad i gyflawni'r drosedd.
Carcharu dyn ifanc ar ôl iddo gyfaddef llofruddio ei fam gyda morthwyl
Fe ddechreuodd yr ymosodiad ar y 23 o Hydref 2025 yng nghartref y teulu.
Fe darodd Roberts ei fam gyda morthwyl a'i chrogi.
Er ei bod yn parhau yn ymwybodol, roedd ganddi anafiadau i'w hwyneb.
Yn y recordiad llais a wnaeth Roberts, oedd yn para dros bedair awr, mae modd clywed Ms Shellis yn erfyn ar ei mab i alw 999 ac i gael cymorth.
Ychydig ar ôl 3:30 yn oriau mân y bore canlynol, fe berswadiodd Roberts ei fam i adael y tŷ, gan ddweud wrthi y byddai'n mynd â hi i gael cymorth meddygol.
Fe wnaeth o ei gorfodi i wisgo helmed balaclafa cyn gadael yr eiddo.
Fe arweiniodd hi drwy warchodfa natur leol i le anghysbell cyn dweud wrthi i eistedd ar fainc.
Estynnodd y morthwyl a oedd wedi prynu er mwyn cyflawni'r drosedd.
Dirywiodd ei ymddygiad
Dywedodd yr erlyniad wrth y llys: "Mae'n rhaid ei bod hi wedi gweld [y morthwyl]…dechreuodd sgrechian."
Roedd y recordiad o'r ddyfais recordio wedi clywed cyfres o ergydion trwm a "chwalodd" ochr chwith ei phenglog "yn ddarnau".
Bu farw o anaf difrifol i'r ymennydd. Ar ôl yr ymosodiad, llusgodd Tristan Roberts corff ei fam tua 100 metr cyn ei thaflu i mewn i dyfiant a mynd adref.
Yn ddiweddarach anfonodd negeseuon o ffôn ei fam at ei frawd er mwyn ceisio ei ddarbwyllo ei bod hi'n iawn.
Dywedodd Mr Thomas wrth y llys fod gan Tristan Roberts awtistiaeth ac ADHD ac roedd yn cael trafferth gyda'i addysg.
Pan symudodd yn ôl i ogledd Cymru gyda'i fam a'i frawd ar ôl i'w rieni wahanu, dirywiodd ei ymddygiad.
Dechreuodd ei ddiddordeb mewn cyllyll a chafodd ei gyhuddo o fod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus yn gynharach.
Roedd perthnasau'n poeni amdano'n byw gyda'i fam ac roedd cymydog yn aml yn ei glywed yn gweiddi.
Llofruddiaeth Prestatyn - yr Heddlu yn canmol 'dewrder' Angela Shellis
Dywedodd Andrew Thomas fod Tristan Roberts wedi rhannu negeseuon yn y fforwm ar-lein Discord a chafodd ei rwystro rhag rhannu negeseuon gan y platfform dro ar ôl tro, ond parhaodd i greu cyfrifon newydd - 16 i gyd.
Roedd ei negeseuon yn ymwneud â'i "gasineb tuag at ferched" a dywedodd y byddai'n lladd ei fam fel modd o gael "cyfiawnder a dial".
Roedd o wedi chwilio ar y wê am sut i gael gwared â gwaed a DNA.
Ar noson y llofruddiaeth, creodd broffil ar-lein newydd, ar Discord gan alw'r cyfrif yn "Tonight's the Night".
Ar 23 Hydref, gwnaeth nodyn ar y ddyfais recordio. Dywedodd mai Alex oedd ei enw, ac y byddai'n "lladd" y noson honno.
Dechreuodd yr ymosodiad ar Angela Shellis ar ôl 23:00 y noson honno tan ar ôl 03:30 y bore canlynol. Cafodd y cyfan ei recordio ar y ddyfais recordio, a dywedodd Mr Thomas ei fod yn "rhy ofidus" i'w chwarae i'r llys.
'Fe wnes di chwalu popeth'
Fe wnaeth Sarah Gunther, chwaer Angela, siarad yn y llys, gan gyfeirio yn uniongyrchol at Tristan Roberts
Dywedodd ei bod hi eisiau edrych yn ei lygaid wrth iddi ddweud wrtho am effaith llofruddio Angela.
"Fel teulu agos, fe wnaethon ni ymladd mor galed i helpu… ni wnaeth yr un ohonom roi'r gorau iddi ac fe geision ni dy gynnwys di ym mhopeth."
Dywedodd, os nad oedd Tristan eisiau byw gyda'i fam, gallai fod wedi gwneud hynny heb "fynd i'r mesurau eithafol" a wnaeth.
"Fe wnes di chwalu popeth…" meddai wrtho.
"Rwy'n cael trafferth gydag iselder, dicter, pryder… Dydw i ddim yn teimlo'r un person ag yr oeddwn i o'r blaen… Mae fy nheulu wedi'i dorri."
Dywedodd ei bod hi'n gobeithio y gallai un diwrnod ddeall canlyniadau'r hyn y mae wedi'i wneud.
Wrth drafod Angela, dywedodd ei bod hi'n berson "cryf ac yn benderfynol".
'Hi oedd y person pwysicaf yn fy mywyd'
Cafodd ddatganiad Ethan Roberts, brawd Tristan, ei ddarllen gan Anna Pope.
Dywedodd ei fod wedi cael ei "chwalu'n llwyr" gan yr hyn a ddigwyddodd.
Dywedodd ei fod yn gwybod bod rhywbeth o'i le ar fore'r ymosodiad pan geisiodd siarad â'i fam, ond "na allai byth fod wedi dychmygu y gallai Tristan fod wedi gwneud hyn".
"Bydd y diwrnod hwnnw'n aros yn aneglur am byth," meddai, gan gofio gwneud y daith oriau o hyd yn ôl o'r brifysgol ar drafnidiaeth gyhoeddus ar ei ben ei hun ac yna cyrraedd tŷ ei fodryb, gyda'r heddlu'n cadarnhau eu bod yn credu mai ei fam oedd y ddynes oedden nhw wedi dod o hyd iddi.
"Fydd ein teulu fyth yn gyfan eto," meddai.
Disgrifiodd ei fam fel un oedd yn gwneud unrhyw beth drostyn nhw, a dywedodd ei fod yn teimlo'n "euog ac yn ddig am beidio â bod yno" a hyd yn oed ychydig yn ddig gyda'i fam am beidio â gofyn iddo fe na'i chwaer hi am gymorth.
"Hi oedd y person pwysicaf yn fy mywyd ac mae hi wedi mynd rŵan".
Dyn ifanc 18 oed o Sir Ddinbych yn cyfaddef llofruddio ei fam
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
Teyrnged i fam 'gariadus' ar ôl canfod ei chorff yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2025
Fe wnaeth y barnwr Rhys Rowlands gydymdeimlo â'r teulu gan ddweud nad oedd yn medru dychmygu beth y maen nhw wedi'i wynebu.
Wrth ddedfrydu Roberts i garchar am oes gydag o leiaf 22 mlynedd a hanner dan glo, ychwanegodd y barnwr fod arbenigwyr meddygol "o'r farn nad oeddech chi'n dioddef o unrhyw anhwylder meddwl sylweddol a fyddai wedi cael effaith sylweddol ar eich ymddygiad ar yr adeg y gwnaethoch chi ladd eich mam".
"Yn hytrach, byddech chi wedi deall yr hyn oeddech chi'n ei wneud ac wedi gallu ymarfer hunanreolaeth.
"Felly, er nad ydw i'n diystyru nac yn anwybyddu eich iechyd meddwl, mae'n nodwedd ac mae'n lliniaru eich ymddygiad."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y platfform Discord: "Rydym wedi'n tristau gan yr amgylchiadau yn yr achos hwn.
"Nid yw Discord yn goddef trais ar y platfform ac mae wedi ymrwymo i helpu i gadw ein defnyddwyr yn ddiogel.
"Mae ein systemau diogelwch yn cyfuno technoleg uwch ac ymchwiliadau dan arweiniad dynol, ochr yn ochr ag adroddiadau defnyddwyr i nodi cyfrifon neu fannau sy'n ymwneud â gweithgaredd niweidiol."
Fe wnaethon nhw hefyd nodi: "Pan fyddwn yn canfod bod polisïau'n cael eu torri, rydym yn cymryd camau pendant, gan gynnwys tynnu cynnwys, gwahardd actorion drwg, cau gweinyddion sy'n torri'r gyfraith, ac adrodd yn rhagweithiol am droseddau i orfodi'r gyfraith lle bo'n briodol ac yn unol â'r gyfraith."