Democratiaid Rhyddfrydol eisiau 'dylanwadu ar gyfeiriad y llywodraeth nesaf'

Jane DoddsFfynhonnell y llun, Miles Rothoerl
Disgrifiad o’r llun,

"Rydym am fod yn onest gyda phobl Cymru," meddai Jane Dodds

GanDavid Grundy
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi lansio eu hymgyrch ar gyfer etholiad y Senedd, gan addo mai dim ond llywodraeth fydd yn cadw at "linellau coch" y blaid y byddan nhw'n cefnogi.

Dywedodd Jane Dodds, arweinydd y blaid yng Nghymru, na fydd gan unrhyw blaid unigol fwyafrif ar ôl yr etholiad.

Ond ychwanegodd y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn bresennol gyda "llond dwrn o ASau" a fyddai'n "dylanwadu ar gyfeiriad y llywodraeth nesaf".

Wrth lansio'r ymgyrch mewn bragdy yn y Mwmbwls, dywedodd Ms Dodds y byddai ei phlaid yn diogelu'r gwasanaeth iechyd drwy fuddsoddi o leiaf £300m yng ngwasanaethau gofal cymdeithasol.

Bydd pobl ledled Cymru yn ethol 96 o aelodau i'r Senedd ar 7 Mai.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Dywedodd y blaid y bydden nhw'n gwrthwynebu annibyniaeth er mwyn canolbwyntio ar faterion sy'n effeithio ar "fywydau beunyddiol" pobl.

Dywedon nhw hefyd y bydden nhw'n pwyso am ddiwygio'r system trethi busnes yn nhymor nesaf y Senedd.

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Ms Dodds y byddai ei phlaid yn cyflwyno pecyn cyffredinol o 30 awr o ofal plant am ddim yr wythnos, 48 wythnos y flwyddyn, i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed.

Dywedodd y bydd cyllid ychwanegol i Gyfoeth Naturiol Cymru a gwaharddiad ar daliadau bonws i benaethiaid cwmnïau dŵr hyd nes y daw gollyngiadau carthffosiaeth i ben, er mwyn helpu i lanhau afonydd a'r môr.

Democratiaid RhyddfrydolFfynhonnell y llun, Miles Rothoerl
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y blaid yn lansio eu hymgyrch mewn bragdy yn y Mwmbwls ddydd Mercher

"Rydym am fod yn onest gyda phobl Cymru," meddai, "a dyna pam 'dan ni'n dweud y byddan ni'n gweithio gyda phleidiau eraill, fel yr ydym wedi'i wneud yn y gorffennol, ond rydym hefyd wedi gosod ein llinellau coch".

"Rydym yn credu y gallwn ennill seddi yng Nghaerdydd Ffynnon Taf, Gŵyr Abertawe, Brycheiniog Tawe Nedd, Gwynedd Maldwyn a Ceredigion Penfro.

"Gyda'r holl bolareiddio sydd wedi bod ar drafodaeth wleidyddol, 'dan ni yn gwybod bod pobl yn chwilio am y tir canol hwnnw.

"Rydyn ni eisoes wedi gweld pleidleiswyr Llafur a'r Ceidwadwyr yn dod aton ni ac rydyn ni'n gobeithio y bydd hynny'n parhau ar 7 Mai."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol

Trending Now