Yr Arweinwyr: Jane Dodds
- Cyhoeddwyd
Wrth i etholiad Senedd Cymru agosáu, pwy ydy'r bobl sy'n gobeithio bod yn Brif Weinidog eu gwlad?
Mewn cyfres o erthyglau, Cymru Fyw sy'n cyhoeddi proffil o arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru.

Yn Etholiadau Senedd Cymru 2021, dim ond un gwleidydd Democrat Rhyddfrydol gafodd ei ethol.
Dros y bum mlynedd diwethaf Jane Dodds oedd yr unig lais dros y blaid yn y Senedd ym Mae Caerdydd, gan gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Dim ond un Aelod Seneddol sydd gan y blaid yng Nghymru yn Senedd San Steffan hefyd - David Chadwick, sydd yn cynrychioli llawer o'r un ardal a Ms Dodds yn ne Powys.
Chwe sedd yw'r nifer fwyaf o seddi mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ei gael yn Etholiadau'r Cynulliad/Senedd, gan wneud hynny yn 1999, 2003 ac 2007.
Magwraeth yn Wrecsam
O Wrecsam y daw Jane Dodds yn wreiddiol - ganwyd hi yno yn 1963, yn ferch i Eirwyn a Marjorie Dykins.
Aeth Ms Dodds i Ysgol Gymraeg Morgan Llwyd yn Wrecsam, cyn mynd ymlaen i astudio Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Roedd hi'n gweithio fel gweithiwr cymdeithasol am 27 mlynedd, yn ymwneud ag adrannau amddiffyn plant - maes mae hi'n dweud sy'n hynod bwysig iddi.
Yna daeth cyfnod yn gweithio i Fyddin yr Iachawdwriaeth mewn Gwasanaethau Amddiffyn Plant, ac roedd Ms Dodds hefyd yn arwain yr adran plant o fewn Cyngor y Ffoaduriaid, cyn mynd mlaen i weithio i'r Eglwys yn Loegr.

Ms Dodds yn siarad mewn digwyddiad yn y Senedd ym mis Tachwedd 2023
Gadael Llafur yn sgil Irac
Roedd Ms Dodds yn arfer bod yn aelod o'r Blaid Lafur, ond yn sgil ei gwrthwynebiad cryf i ymyrraeth Prydain yn Rhyfel Irac fe adawodd y blaid yn 2003.
Bu'n byw yn Llundain am rhai blynyddoedd ar droad y ganrif, ac yn 2005 fe ymunodd â'r Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd yn weithgar yn ardal Richmond, ac fe gafodd ei hethol i Gyngor Bwrdeistref Richmond yn 2006.
Yn 2012 daeth Ms Dodds yn ôl i Gymru gan symud i fyw i'r Trallwng, a gofalu am ei mam a oedd yn byw gyda dementia.
Safodd Ms Dodds fel ymgeisydd i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiadau San Steffan 2015 a 2017, ac ar gyfer y Cynulliad yn 2016, gan orffen yn ail i'r Ceidwadwyr ar y tri achlysur.
Ond fe gafodd ei hethol i San Steffan yn 2019, gan ennill sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed mewn isetholiad.

Jane Dodds yn dathlu ei buddugoliaeth yn isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed gyda Syr Ed Davey, a Kirsty Williams wrth ei hochr, 1 Awst, 2019
Cafodd Ms Dodds ei henwi'n arweinydd ar y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn 2017, gan guro'r cynghorydd Elizabeth Evans o 13% mewn gornest am yr arweinyddiaeth.
Mae Jackie Charlton yn gynghorydd i'r Democratiaid Rhyddfrydol ar Gyngor Powys, gan gynrychioli Llangatwg a Llangynidr.
Fe wnaeth hi gyfarfod Dodds am y tro cyntaf yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaerdydd yn 2012.
"Mae Jane yn cyflawni pethau'n dawel tra'n cadw cysylltiad bob amser â'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad", meddai Ms Charlton.
"Mae hi wir yn deall beth sydd ei angen ar gymunedau, boed hyn yn cefnogi cyllideb Cyngor Sir Powys yn 2025, gwelliannau i briffyrdd, neu i gyflwyno mentrau fel prisiau bws £1 a chyllid ychwanegol yn lleol.
"Mae hi'n rhagweithiol yn hytrach nag yn adweithiol, yn meddwl ymlaen llaw ac yn mynd i'r afael â phroblemau cyn iddynt ddod yn argyfyngau."

Jane Dodds gyda'r Cynghorydd Jackie Charlton
Yn ôl y Cynghorydd Charlton, un o rinweddau cryfaf Ms Dodds yw'r ffaith ei bod hi'n du hwnt o ymarferol.
"Prif gryfderau Jane yw ei gwydnwch, ei ffocws a'i empathi. Mae hi'n wynebu heriau ac anawsterau'n uniongyrchol, heb gwyno na hel clecs am neb.
"Mae hi'n mynd ymlaen efo'i gwaith, gan ddod o hyd i atebion ymarferol er gwaetha' pa mor anodd mae amgylchiadau'n gallu bod."
Yr Arweinwyr: Eluned Morgan
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Yr Arweinwyr: Dan Thomas
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Yr Arweinwyr: Rhun ap Iorwerth
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Gwleidydd 'gofalgar, sydd ag empathi'
Mae'r Cynghorydd Charlton hefyd yn dweud bod gan Ms Dodds natur garedig a meddylgar.
"Mae hi'n hynod o hael a gofalgar. Yn bersonol, mae hi wedi rhoi llawer o gefnogaeth i mi, a dwi erioed wedi ei chlywed hi'n dweud ei bod hi'n rhy brysur ar gyfer unrhyw beth.
"Mae hi'n hawdd mynd ati, yn gwrando'n ofalus ac mae hi bob amser yn cymryd barn pobl o ddifrif. Pan fydd hi'n gwneud rhywbeth o'i le, mae hi'n ymddiheuro ar unwaith.
"Mae hi'n rhoi eraill yn gyntaf, yn dangos empathi, ac yn gwneud i bawb deimlo eu bod yn cael eu clywed. Mae ei chyfuniad o wybodaeth ymarferol, rhagwelediad, a chynhesrwydd personol yn ei gwneud hi'n arweinydd y gallwch ymddiried ynddi a mwynhau gweithio gyda hi.
"Mae hi'n ffrind da, boed hynny pryd ni'n mynd â'r ci am dro gyda'n gilydd, rhannu cinio, neu pryd mae hi jest yn checio mewn, i weld sut ydw i.
"Mae ganddi hi'r brwdfrydedd 'ma am fywyd, ond mae hi hefyd yn berson dwfn a phreifat, gyda gwerthoedd cryfion, sy'n cynnwys ei ffydd a hefyd ei ymrwymiad i'w theulu - mae hi'n agos iawn i'w neiaint a'i nithoedd."

Ms Dodds gyda Kirsty Williams a chyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jo Swinson
Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd yn 2021 fe wnaeth Ms Dodds "gamgymeriad barn ddifrifol" drwy beidio â chynnal cyfarfod i drafod achos cam-drin rhywiol yn ymwneud â chyn-esgob a gam-driniodd o leiaf 18 o ddioddefwyr yn rhywiol dros gyfnod o 15 mlynedd, gan gynnwys adeg pan oedd Dodds yn gweithio i Eglwys Loegr.
Daeth yr wybodaeth i'r amlwg ym mis Tachwedd 2024 wedi i Archesgob Caergaint, Justin Welby, ymddiswyddo oherwydd ei fethiant i roi gwybod am y troseddwr rhyw, John Smyth.
Dywedodd Ms Dodds na fyddai hi'n ymddiswyddo fel arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru er gwaethaf i arweinydd y blaid yn y DU, Syr Ed Dave, ddweud y dylai hi ystyried ymddiswyddo.
Fe ddywedodd Mr Davey ei fod wedi siarad â Ms Dodds ac wedi bod yn "glir iawn wrthi ynglŷn â'r hyn rwy'n credu y dylai ei wneud"
Ond fe barhaodd Ms Dodds yn y rôl gan ddweud byddai'n "parhau i ymladd dros bobl Cymru" fel arweinydd y blaid yng Nghymru, a'i bod wedi "derbyn bod diffygion wedi bod ar y pryd", a gafodd ei godi yn yr adroddiad. Dywedodd mai amddiffyn plant yw gwaith ei hoes ac fe ymddiheurodd i'r dioddefwyr.

Jane Dodds yn ymgyrchu gydag Syr Ed Davey, yn Nhref-y-clawdd ar 29 Mai, 2024
Rhywun arall sy'n 'nabod Ms Dodds yn dda yw'r Cynghorydd Richard Church o'r Trallwng.
"'Nes i gwrdd â Jane gyntaf yn 2013 mewn hustings Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn y Trallwng, pan oedd hi'n ceisio dod yn AS dros Sir Drefaldwyn," meddai.
"Fy argraff gyntaf oedd bod Jane yn rhywun a oedd yn dal mlaen i'w chredoau gwleidyddol yn gryf, wedi'u llunio gan ei phrofiadau personol ac yn enwedig gan ei gyrfa broffesiynol."
'Cynnal cyfeillgarwch'
Mae'r Cynghorydd Church hefyd yn dweud bod Ms Dodds yn wrandäwr da, sy'n rhoi sylw manwl i'r hyn y mae pobl yn ei ddweud.
Dywedoedd mai ei egwyddorion a'i dyfalbarhad i frwydro dros yr hyn sy'n iawn sy'n gwneud Ms Dodds yn arweinydd effeithiol.
"Mae hi wastad yn gweithio i gynnal cyfeillgarwch gydag eraill, boed hynny'n mynd allan am fwyd, galwadau ffôn bob pythefnos, neu noson neu ddwy i ffwrdd ar frêc.
"Rwy'n cofio'n arbennig wyliau a aethon ni arno yn Sir Gaerfyrddin ychydig flynyddoedd yn ôl, gan ymweld â Gerddi Botanegol Cymru. Roedd yn gyfle gwych i ymlacio, ac mae Jane yn llawn hwyl ac egni pan gaiff y cyfle i ymlacio."

Ms Dodds yn annerch y neuadd ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt wedi iddi ennill isetholiad Brycheiniog a Maesyfed ar 2 Awst, 2019
Yn Etholiad 2026 bydd Ms Dodds yn sefyll fel prif ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholaeth Brycheiniog Tawe Nedd.
Mae'n etholaeth sy'n cwmpasu Brycheiniog a Sir Faesyfed i gyd, Cwm Tawe, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe.
Bydd Ms Dodds a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio gweld cynnydd yn y nifer o aelodau yn y Senedd wedi'r etholiad ar 7 Mai.
Dewiswyd trefn cyhoeddi y darnau proffil ar hap - mi fydd yna erthyglau tebyg am arweinwyr pob un o'r brif pleidiau yn cael eu cyhoeddi rhwng nawr a 10 Ebrill.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.