Undeb yn 'siomedig' gyda phapur myfyrwyr yn cymharu fflatiau Cymraeg â 'getos'

O ddechrau blwyddyn academaidd 2026/27 bydd pob fflat yn Llys Senghennydd yn cael eu rhoi mewn un bloc
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (UMCC) wedi dweud eu bod yn "hynod siomedig" o weld papur newydd myfyrwyr yn cymharu fflatiau - sydd wedi'u neilltuo ar gyfer siaradwyr Cymraeg - gyda "getos" ac "arwahanu".
Fe wnaeth Gair Rhydd, papur newydd i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, gyhoeddi darn barn yn ymateb i'r penderfyniad o gadw un bloc o fflatiau yn Llys Senghennydd ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn unig.
Yn yr erthygl, cwestiynodd yr awdur a fyddai creu bloc iaith Gymraeg yn creu canolfan ddiwylliannol neu "clique Cymraeg".
Mewn ymateb, dywedodd Gair Rhydd eu bod yn ymwybodol o ddatganiad UMCC, ond "nad oedd yr erthygl wedi'i chanfod o fod wedi torri unrhyw un o'r rheolau sy'n cael eu nodi yng Nghod Cyfryngau Undeb Myfyrwyr Caerdydd".
Dywedon nhw eu bod yn "siomedig bod UMCC wedi camliwio'r ymadroddion hyn i bortreadu'r erthygl fel ymosodiad ar yr iaith Gymraeg".
'Sarhaus ac enllibus'
Dywedodd UMCC mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol fod yr iaith a gafodd ei ddefnyddio yn yr erthygl yn "sarhaus ac enllibus".
Yn y gorffennol, roedd fflatiau Cymraeg mewn tri bloc ar wahân yn Llys Senghennydd, yn ogystal â Gogledd Talybont a Thŷ Clodien.
O ddechrau blwyddyn academaidd 2026/27 bydd pob fflat yn Llys Senghennydd yn cael eu rhoi mewn un bloc, gyda'r fflatiau hefyd yn aros yng Ngogledd Talybont a Thŷ Clodien.
Yn yr erthygl, dywedwyd "mai dim ond helpu bregusrwydd yr iaith Gymraeg y gall darparu lle i fyfyrwyr barhau i ymarfer eu mamiaith ei wneud".
Ond, aeth yr erthygl ymlaen i ddweud fod y symudiad hefo'r "perygl o greu clique Cymraeg", a allai yn y pen draw "greu rhaniad yn hytrach na hwb".
Disgrifiodd UMCC y newid mewn llety fel "buddugoliaeth fawr i fyfyrwyr Cymraeg ac i hunaniaeth Gymreig Prifysgol Caerdydd", rhywbeth yr oeddent yn falch o'i gyhoeddi ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu.
Maen nhw'n dweud bod yr erthygl yn "anwybyddu ac yn dileu profiad ein myfyrwyr Cymraeg sydd wedi ymgyrchu ers tro am floc Cymraeg penodol".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.