Y Ddadl Fawr: Iechyd, costau byw a mwy o bwerau ymhlith y pynciau

Cynrychiolwyr y pleidiau - Y Ceidwadwyr - Paul Davies Reform UK - Helen Jenner Llafur - Eluned Morgan Y Blaid Werdd - Tessa Marshall Plaid Cymru - Rhun ap Iorwerth Y Democratiaid Rhyddfrydol - Jane Dodds
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith: Y Ceidwadwyr - Paul Davies, Reform UK - Helen Jenner, Llafur - Eluned Morgan, y Blaid Werdd - Tessa Marshall, Plaid Cymru - Rhun ap Iorwerth, y Democratiaid Rhyddfrydol - Jane Dodds

GanCemlyn Davies
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru wedi ymddiheuro i gleifion yng Nghymru sy'n yn aros yn hir am driniaeth ar y gwasanaeth iechyd.

Cafodd Eluned Morgan ei herio ar y pwnc tra'n cymryd rhan mewn dadl deledu fyw ar S4C a Radio Cymru ar drothwy etholiad Senedd Cymru.

Mae iechyd yn bwnc amlwg yn ystod yr ymgyrch etholiadol, gyda'r ffigurau diweddaraf - gafodd eu cyhoeddi heddiw - yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi methu ei thargedau ar gyfer torri rhestrau aros.

Roedd cynrychiolwyr y pleidiau eraill yn feirniadol o record Llafur mewn grym yng Nghymru.

Bethan Rhys Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Bethan Rhys Roberts oedd yn cyflwyno'r ddadl nos Iau

Yn ystod y ddadl o bencadlys S4C yn yr Egin yng Nghaerfyrddin, cafodd Morgan ei herio gan aelod o'r gynulleidfa a soniodd am ffrind iddo sydd "wedi bod yn aros am bum mlynedd" am driniaeth ar ei glun.

"'S'dim ceiniog 'da fe i fynd yn breifat ac mae'n boenus, boenus ofnadwy... wnewch chi ddweud 'sori'?"

Dywedodd Morgan ei bod hi'n derbyn bod yna "broblemau" ac eglurodd bod y rhestrau aros wedi codi adeg y pandemig.

Pan gafodd ei herio ymhellach, dywedodd: "Wrth gwrs 'mod i'n fodlon ymddiheuro, mae'n flin iawn 'da fi i glywed hynny."

"Dwi'n hapus i ddweud 'sori', mae'n cyffwrdd â fi a dwi'n teimlo hwnna yn aruthrol achos nid fe yw'r unig un."

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Cafodd arweinydd Plaid Cymru ei herio ar gost un o brif bolisïau ei blaid, sef ehangu'r ddarpariaeth ofal plant yng Nghymru.

Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud y byddai'r polisi yn costio £400m yn ychwanegol y flwyddyn erbyn blwyddyn ola'r Senedd nesa, ond dydy ei blaid ddim wedi dweud o ble byddai'r arian yn dod.

"Mater o ail-flaenoriaethu fydd hyn," meddai ap Iorwerth yn ystod y ddadl.

Ond dywedodd Morgan nad oedd Plaid Cymru yn bod yn "onest gyda phobl am ble mae'r toriadau yn mynd i ddod".

Dywedodd hefyd y byddai'r polisi gofal plant yn rhoi arian ym mhoced "millionaires".

Does yr un blaid wedi gwneud eu costau'n gyhoeddus.

Bethan Rhys Roberts yng nghanol y dorf

Cafodd dirprwy arweinydd Reform UK yng Nghymru, Helen Jenner, ei herio ar gynlluniau ei phlaid hi ar gyfer y GIG.

Mynnodd na fyddai Reform yn preifateiddio'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Pan gyfeiriodd Rhun ap Iorwerth at sylwadau gan Nigel Farage ar y pwnc yn y gorffennol, dywedodd Jenner bod ap Iorwerth yn "obsessed" gyda Nigel Farage.

Cafodd ei holi'n hwyrach am fideo ddaeth i'r amlwg ym mis Mawrth ble cyfeiriodd Farage at siaradwyr Cymraeg fel "siaradwyr estron".

Roedd Farage wedi cael ei dalu i recordio'r fideo fel cyfarchiad priodas.

Dywedodd Jenner bod y sylw "ddim yn jôc fyddwn i wedi ei wneud, ond jôc oedd o".

Yn ystod y drafodaeth ar gostau byw dywedodd dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Paul Davies, y byddai ei blaid yn "torri ceiniog oddi wrth y dreth incwm sylfaenol" a fyddai "werth £450 bob blwyddyn i bob teulu".

Gwadodd y byddai angen "coeden arian hud" i dalu am dorri trethu.

Soniodd Tessa Marshall o'r Blaid Werdd am brif bolisi'r blaid o rewi rhenti ar gyfer pobl sy'n rhentu'n breifat, ond rybuddiodd ambell i aelod o'r panel a'r gynulleidfa y gallai hynny orfodi rhai arglwyddi tir i werthu eu heiddo, gan arwain at brinder cartrefi.

'Llinell goch'

Pan drodd y sgwrs at annibyniaeth, dywedodd Marshall bod angen "adeiladu cymdeithas ddinesig" yng Nghymru fel cam hanfodol tuag at y nod.

Yn ystod yr un drafodaeth, pwysleisiodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Jane Dodds na fyddai hi'n gweithio gydag unrhyw blaid oedd bwriadu gwario ceiniog ar annibyniaeth.

Mae hynny'n "linell goch", meddai.

Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol bolisi hefyd o godi ceiniog ychwanegol ar dreth incwm am gyfnod os oes angen er mwyn cefnogi gofal cymdeithasol.

"'Da ni'n onest yn hollol gyda'r cyhoedd, os dyw'r arian ddim yn y gyllideb o San Steffan neu yn y gyllideb o'r Senedd 'da ni eisiau gweld 1c ar y dreth i sicrhau fod hynny jyst yn mynd ar wasanaethau [cymdeithasol] i ddod a'r niferoedd sydd yn ein hysbytai ni i lawr."

Wnaeth hi ddim dweud am ba hyd fyddai'r cyfnod o gynyddu trethu yn para.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now