Dau berson yn yr ysbyty a dwy ysgol ar gau ar ôl gwrthdrawiad

Mae'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd a Melin Bapur Pen-y-bont ar Ogwr
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod dau berson wedi'u cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A4063 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi adroddiadau fod gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd yn Llangynwyd fore Gwener.
Mae'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd a Melin Bapur Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ac Ysgol Gyfun Maesteg ar gau "er mwyn diogelwch a lles disgyblion a staff oedd yn teithio i'r ysgol".
Mae'r heddlu'n apelio ar bobl i osgoi'r ardal tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr "doedd yr un o'u cerbydau ysgol yn rhan o'r digwyddiad yn Llangynwyd".
"Mae rhieni a gofalwyr y disgyblion wedi cael gwybod am yr oedi mawr i'r gwasanaethau cludo plant i'r ysgol o ganlyniad i'r traffig ar ôl cau'r ffordd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.