Techneg glasurol yn hudoli crefftwraig o Gymru

Mary ThomasFfynhonnell y llun, Mary Thomas
GanArwel Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae artist o Ddyffryn Conwy sy'n arbenigo mewn ffotograffiaeth cyanotype wrthi'n cynnal nifer o weithdai i hyrwyddo'r grefft glasurol gan ddisgrifio'r broses ddi-gamera yn un hudolus, sy'n gymysgedd o 'gelf, gwyddoniaeth ac alcemi'.

Mae'r grefft ei hun - cyanotype – a'i gwreiddiau yn Oes Fictoria a dechrau ffotograffiaeth.

Ond erbyn heddiw mae'n cael ei defnyddio ar gyfer creu delweddau trawiadol ar grefftau a defnyddiau o bob math.

Dywed Mary Thomas, sy'n byw yng Nglan Conwy ac yn gyn athrawes gynradd, ei bod wedi arbrofi gyda gwahanol fathau o grefft cyn troi ei sylw at ffotograffiaeth cyanotype. Erbyn hyn mae'n cynnal nifer o weithdai ac yn derbyn comisiynau ar gyfer ei gwaith.

Darn o waith celf cyanotype gan Mary ThomasFfynhonnell y llun, Mary Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mary Thomas: Mae'r broses yn un o gymysgedd o 'gelf, gwyddoniaeth ac alcemi'

"'De ni'n mynd yn ôl i'r byd analog a gadel y byd digidol. Gath hwn ei ddarganfod yn 1842 gan ddyn clyfar iawn o'r enw Syr John Herschel.

"Felly 'de ni'n mynd reit nôl i ddechrau ffotograffiaeth. Ma' hwn yn broses ddi- gamera; mae'n broses hudolus ac yn broses arbennig iawn ond yn broffesiynol hefyd.

"Mae cyan yn lliw glas a be' mae'r gair cyanotype ei yn feddwl ydi argraff glas dywyll."

Ychwanegodd fod angen ychydig o amynedd ond fod y broses yn un sy'n apelio at blant a phobl o bob oed.

"Mae gennyt ti hylif sy'n sensitif i UV (uwch-fioled) – golau haul neu lamp UV - ti'n taenu papur neu ddefnydd efo'r hylif yma a rhoi planhigyn arno fo – neu dwi'n datblygu negatives fy hun a phethau fel 'na."

Darn o waith gan Mary ThomasFfynhonnell y llun, Mary Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r broses o greu'r ddelwedd yn ddibynnol ar olau'r haul neu olau UV

Mae'r broses yn un sy'n fwy dibynnol ar y byd naturiol yn hytrach na thechnoleg.

"Ti'n datblygu o yn yr haul; dyna be' sy'n arbennig amdano fo. Ac wedyn gan ei fod o'n analog mae'n rhaid i ti fficsio fo, fel ma' nhw'n dweud," meddai.

"Mae hynny'n digwydd efo dŵr; ti'n rhedeg o dan ddŵr ar ôl iddo ddatblygu ac wedyn mae'n troi yn las a gwyn.

"Deg mlynedd ar ôl i mi ddechrau dwi dal yn cael gymaint o bleser o'i wneud o.

"Mae o'n hudolus, mae'n grêt i wneud efo plant, dwi'n rhedeg gweithdai ac mae'n ffordd hawdd i bobl greu delweddau.

Darn o waith gan Mary ThomasFfynhonnell y llun, Mary Thomas

"'Nes i ddechrau efo planhigion. Ond dwi'n hoffi arbrofi. Yn ystod y cyfnod clo 'nes i ddefnyddio papur ffotograffiaeth a gwthio ymylon be' alli di wneud efo fo i greu delweddau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now