Torri 200 o swyddi ym Mhrifysgol De Cymru

Campws prifysgol yn dangos adeiladau gwyn a gwaith adeiladu a dau graen yng nghanol y safleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Brifysgol De Cymru dri champws gan gynnwys safle yn Nhrefforest ger Pontypridd

GanBethan Lewis
Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol De Cymru'n dweud eu bod yn torri 200 o swyddi yn sgil y problemau ariannol sy'n wynebu addysg uwch.

Dywedodd y sefydliad eu bod wedi agor proses diswyddo gwirfoddol ar gyfer staff mewn gwasanaethau proffesiynol a rhai meysydd academaidd.

Fe fyddai diswyddiadau gorfodol yn cael eu hosgoi "lle bynnag y bo modd", ychwanegodd llefarydd.

Dywedodd yr Undeb Coleg a Phrifysgol (UCU) bod y cyhoeddiad wedi achosi "sioc a phryder sylweddol" i staff.

Yn ôl llefarydd, mae'r ymdrech i wneud arbedion yn dod yn sgil "trafferthion ledled y sector" gan gynnwys costau gweithredu uwch a newidiadau polisi ynghylch myfyrwyr rhyngwladol.

Roedd y brifysgol eisoes wedi cynnal prosesau diswyddo i dorri 160 o swyddi gwasanaethau proffesiynol a 90 o swyddi academaidd yn ogystal â chau rhai cyrsiau.

Fis Tachwedd diwethaf dywedodd y brifysgol eu bod yn rhagweld torri "llai na 20" o swyddi trwy ddiswyddo gorfodol.

Dywedodd llefarydd nad yw'r cynigion diweddaraf i dorri 200 o'r gweithlu yn cynnwys cau cyrsiau nac adrannau, ac y gallai arwain at arbed hyd at £11m.

Fe ddywedodd bod y brifysgol "wedi gorfod ystyried sut y gallwn leihau ein sail gostau gyffredinol wrth dargedu cyfleoedd i dyfu".

"Rydyn ni wedi bod yn agored gyda'n cydweithwyr am raddfa'r newid – rydyn ni'n ceisio lleihau ein gweithlu gan tua 200 o swyddi.

"Mae'r rhaglen hon yn gwbl wirfoddol," meddai.

Aeth y llefarydd ymlaen hefyd i ddweud eu bod wedi trafod ag undebau i gytuno ar gynnig diswyddo gwirfoddol "gan adlewyrchu ein hymrwymiad didwyll i leihau mesurau gorfodol lle bynnag y bo modd".

"Dydy hyn ddim yn benderfyniad rydyn ni wedi gwneud yn ysgafn ac mae wedi ei yrru gan y nod i amddiffyn ein cynaliadwyedd ariannol hir dymor".

Y sector addysg mewn 'argyfwng'

Dywedodd Estelle Hart, Cadeirydd UCU Cymru bod y sector addysg uwch mewn "argyfwng".

"Mae'n rhaid i Brifysgol De Cymru fod yn dryloyw gyda staff a myfyrwyr ynghylch y rhesymau dros y diswyddiadau," meddai.

"Mae diswyddo gorfodol yn parhau i fod yn linell goch ar gyfer gweithredu diwydiannol i UCU Cymru."

Dywedodd Dan Beard o undeb UNISON Cymru bod staff yn deall yr heriau y mae'r sector yn wynebu ond bod angen i'r broses fod yn deg a thryloyw.

"Ddylai staff ddim disgwyl cario baich problemau strwythurol yn y sector.

"Rhaid i nhw gael eu trin â pharch a'u cefnogi'n briodol drwy'r broses hon."

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 2,040 o aelodau staff ym Mhrifysgol De Cymru.

Mae prifysgolion eraill yng Nghymru wedi bod yn gostwng niferoedd staff dros y 18 mis diwethaf, gyda Phrifysgol Abertawe yn cyhoeddi ym mis Ionawr eu bod yn torri 55 o swyddi academaidd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now