Cyn-actor Rownd a Rownd yn sefydlu cwmni sy'n taclo diogelwch AI

Will a Dewi, sylfaenwyr BlueDot Impact
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-actor y gyfres Rownd a Rownd, Dewi Erwan o Frynteg, Ynys Môn wedi sefydlu cwmni sy'n cynghori cwmniau, llywodraethau a phobl broffesiynol ar draws y byd ar sut i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, neu AI, yn ddiogel.
Mae'r cwmni di-elw, BlueDot Impact sydd wedi bod â'i bencadlys yn Llundain, ar fin symud i San Francisco ar ôl derbyn $34 miliwn gan Coefficient Giving sydd ag entrepreuneriaid fel Dustin Moskovits, un o sylfaenwyr Facebook yn brif roddwr.
Ers 2022 mae BlueDot Impact, a sefydlwyd gan Dewi a'i gyfaill Will, wedi hyfforddi dros 5000 o bobl ledled y byd ar faterion fel defnydd diogel o AI a'r risgiau o fyw mewn pandemig arall.
Mae eu cwsmeriaid yn cynnwys cwmniau fel Google ac Anthropic, cyrff cyhoeddus fel Y Cenhedloedd Unedig a NATO, a myfyrwyr ym mhrifysgolion Harvard a Rhydychen.
Taclo'r 'problemau mawr'
Ac yntau'n 28 mlwydd oed, roedd Dewi'n "benderfynol o ddatrys problemau mwya'r byd" ers graddio o'r brifysgol.
Meddai: "Wnes i raddio'n 2019 o Brifysgol Durham mewn Peirianneg a chwblhau fy meistr yn 2020 mewn Risg a Chysylltiadau Rhyngwladol.
"Ar ôl hynny o'n i'n trio dalld sut i ddatrys problemau mwya'r byd fy hun ac o'n i'n drysu'n llwyr ar sut i neud.
"Fues i'n sgwrsio efo myfyrwyr yng Nghaergrawnt a wnes i ddarganfod bod pawb arall wedi drysu hefyd felly wnes i benderfynu trio helpu pawb i fod yn llai conffiwsd.
"Dyna'r syniad syml tu ôl i BlueDot Impact. 'Dan ni'n dysgu pobl be ydi'r problemau mawr yn y byd, yn enwedig AI a phandemigs."

Y tîm
Erbyn hyn mae'r cwmni wedi tyfu'n dîm o wyth ac mae her newydd o'u blaenau wrth i bencadlys y cwmni symud i San Francisco. Yn ôl Dewi mae'r tîm o wyth "yn gyfuniad o bobl glyfar a gweithgar o wahanol gefndiroedd sy'n dysgu'n sydyn".
Mae eu darpariaeth yn cynnwys cyrsiau wedi eu hysgrifennu gan arbenigwyr mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys dyfodol AI, sut i lywodraethu AI a'r risgiau wrth ddefnyddio AI.
Y weledigaeth hefyd yw rhoi sgiliau i bobl broffesiynol newid eu gyrfaoedd a mentro i yrfa sy'n ymwneud â diogelwch AI a sut i wneud defnydd cadarnhaol ohono.
Eglurai Dewi: "'Dan ni'n arfogi pobl i fentro am swyddi dylanwadol gyda phrif fudiadau AI y byd er mwyn cael dylanwad positif, ac mae graddedigion ein cyrsiau ni wedi cael swyddi gyda chwmniau fel Anthropic a Google Deep Mind, a hefyd UK AI Security Institute."
"Dyna pam mae Coefficient Giving, mudiad sy'n ariannu prosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth wedi buddsoddi ynddon ni. Maen nhw'n credu ein bod ni yn gallu gwneud gwaith da ym myd AI."
Felly pam symud pencadlys y cwmni o Lundain i San Fransisco?
"Yn San Francisco mae'r cwmnïau pwerus AI. Dyna lle'r entrepreneurs i gyd, ac yn fan'no mae'r pres i gyd a 'dan ni isio codi mwy o bres i ddatrys y problemau mawr yma.
"Fydd yna swyddfa dal yn Llundain ond y rhan fwyaf o'r tîm gan gynnwys fy hun yn San Francisco.
"Mwy 'na thebyg fyddai'n creu tîm yn Washington DC hefyd yn 2027 neu 2028."
Pryderu am AI
Wrth ystyried ethos y cwmni i "ddatrys y problemau mawr", pam fod Dewi'n gweld AI yn fygythiad?
"Dwi'n defnyddio AI bob dydd, trwy'r dydd, bob dydd. Dwi wrth fy modd efo AI fel technoleg ar hyn o bryd. Mae'n rhyfeddol gymaint yn gynt ydw i yn neud bob dim wrth ddefnyddio AI. Mae'n dyblu faint dwin gallu neud bob diwrnod sy'n eitha' rhyfeddol.
"Ond dwi'n poeni yn arw y bydd AI yn cael ei ddefnyddio i greu arfau brawychus iawn. Er enghraifft fydd AI mewn cwpwl o flynyddoedd yn medru cael ei ddefnyddio i greu biological weapons a dwi'n poeni fydd yna pandemics sydd lot gwaeth na Covid ar y gweill oherwydd AI.

Dewi Erwan
"'Dan ni heb ddysgu ers Covid. Mae'r byd mor fregus ag oedd o cyn Covid, os nad yn fwy bregus.
"Dwi hefyd yn poeni y bydd AI yn galluogi i gwmniau mawr technoleg i gymryd drosodd y rhan fwya o'n jobs ni felly fydd yna ddim rheswm i gwmniau gyflogi pobl os fydd AI yn gallu neud bob dim.
"Os fydd AI yn fwy pwerus na bob un person yna fydd o'n anodd iawn i ddynoliaeth gario 'mlaen i fod yn arweinwyr ar draws y byd os fydd AI yn well na ni yn bob dim. Mae hynna yn sefyllfa digon brawychus."
Ac yntau â daliadau cryf am ddiogelwch AI, beth yw ei gyngor ar wneud defnydd synhwyrol ohono ym myd gwaith?
"Defnyddiwch AI er mwyn derbyn adborth yn hytrach nac ysgrifennu pethau ar eich cyfar chi.
"Dydach chi ddim isio AI neud y meddwl i gyd. 'Dach chi isio AI eich helpu chi i feddwl nid meddwl ar eich rhan chi."
O actio ar Rownd a Rownd i daclo diogelwch AI
Y dyddiau hyn mae gwaith dyddiol Dewi'n gyfuniad o "ddatblygu a thyfu ei gwmni a'i dîm" a "thrio dalld sut i atal AI a bioleg rhag lladd pawb" wrth feddwl am ddarpariaeth ei gwmni.
Nid yw Dewi am wadu fod y gwaith "yn heriol ofnadwy" ac yn cymryd cymeriad penderfynol a mentrus.
Mae ei swydd heddiw'n bell iawn o'i waith yn actio cymeriad Jason ar y gyfres Rownd a Rownd pan oedd yn ei arddegau. Ond mae bod yn eofn ac yn fentrus wedi bod yn rhan o gymeriad Dewi erioed.

Dewi yn ystod ei ddyddiau'n chwarae cymeriad Jason ar Rownd a Rownd
Eglurai: "Wnes i erioed gysidro gyrfa mewn actio. Oedd Rownd a Rownd yn hwyl ond wnes i ddim cysidro fo fel gyrfa hir dymor.
"Wnes i gysidro am chydig bach i fod yn ganwr, ro'n i yn edmygu Bryn Fôn yn fawr iawn.
"Pan o'n i yn y brifysgol wnes i dreulio lot o amsar yn neidio allan o awyrenau, fflio awyrenau a dringo mynyddoedd. Ro'n i yn yr RAF University Air Squadron ar y pryd felly wnes i ddysgu sut i fflio plêns. Felly heb os, dwi ddim ofn cymryd risg."

Dewi yn ystod ei ddyddiau'n hedfan awyrenau
Ond mae'r angerdd at wneud gwahaniaeth yn y byd wedi bod ynddo erioed hefyd. A'r reddf honno sydd wedi sbarduno ei yrfa erbyn heddiw.
Meddai: "Pam o'n i yn fy arddegau ro'n i isio mynd i mewn i wleidyddiaeth. O'n i isio gwneud rwbath mawr yn y byd; atal rhyfeloedd, trio datrys newid hinsawdd. Dyna oedd y gôl oedd gen i.
"Dwi'n meddwl fod be' dwi'n 'neud 'wan yn rwbath tebyg i hynna. Dwi'n trio defnyddio fy amsar i helpu pobl erill ac i neud gwahaniaethmawr positif ar y byd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd9 Mai 2025
