Carcharu dau o Gaerffili am smyglo miloedd o fudwyr i Ewrop

Dilshad Shamo a Ali KhdirFfynhonnell y llun, Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dilshad Shamo ac Ali Khdir yn cynllwynio i smyglo pobl o'u busnes glanhau cerbydau yng Nghaerffili

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn oedd yn smyglo mewnfudwyr i Ewrop o safle glanhau cerbydau yng Nghaerffili wedi cael eu dedfrydu i 19 mlynedd yr un yn y carchar.

Roedd Dilshad Shamo, 41, ac Ali Khdir, 40, o Gaerffili yn rhan o gynllun a oedd yn smyglo tua 100 o fewnfudwyr i Ewrop bob wythnos am ddwy flynedd.

Roedden nhw'n gweithio o fusnes glanhau cerbydau cyfreithlon ac yn defnyddio system drosglwyddo arian o'r Dwyrain Canol o'r enw bancio Hawala i ariannu'r cynllun.

Ar ôl pledio'n euog yn ystod yr achos, fe wnaethon nhw ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener i gael eu dedfrydu, gyda'r barnwr yn dweud eu bod "â rolau blaenllaw mewn ymgyrch soffistigedig a llwyddiannus".

Ali Khdir Ffynhonnell y llun, Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Ali Khdir yn y busnes glanhau ceir yng Nghaerffili, o ble roedd y teithiau anghyfreithlon yn cael eu trefnu

Dywedodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) bod Shamo a Khdir wedi gweithredu fel pe tasen nhw'n rhedeg busnes trefnu teithiau.

Roedden nhw wedi hysbysebu eu gwasanaethau i bobl oedd eisiau ymfudo mewn modd sydd wedi'i ddisgrifio gan yr asiantaeth fel "Tripadvisor smyglwyr".

Roedd mudwyr o'r Dwyrain Canol oedd ar eu ffordd i Ewrop yn gwerthuso eu teithiau mewn fideos a gafodd eu ffilmio o lorïau, cychod neu awyrennau.

Mewn un fideo mae dyn yn gofyn "Sut oedd y daith, fechgyn?" ac mae person arall yn ateb trwy godi bawd o gefn y lori.

Dros gyfnod o ddwy flynedd, fe ddaeth y smyglwyr ag oddeutu 100 o fudwyr yr wythnos yn anghyfreithlon i Ewrop.

Roedden nhw'n cynnig pecynnau platinwm, aur, arian ac efydd, gan ddibynnu ar lefel y risg.

Roedd y pecynnau drutaf, oedd yn costio rhwng £10,000 a £25,000, yn sicrhau hediad a phasport ffug.

Roedd rhwng £8,000 a £10,000 yn prynu pecyn aur a thaith ar gwch, a'r pecynnau rhataf, ar gost o £3,000 i £5,000, yn golygu teithio ar lori neu gerbyd llai.

Daeth ymchwilwyr ar draws y fideos gwerthuso ar ffonau'r smyglwyr eu hunain.

Teulu o IranFfynhonnell y llun, NCA
Disgrifiad o’r llun,

"Bendith Duw arnoch chi, rydym yn ddiolchgar iawn," meddai un teulu o Iran a gafodd ei smyglo i Ewrop

Dywed yr NCA bod y ddau yn smyglo mudwyr fel rhan o giang ehangach ac yn "byw bywyd dwbl" wrth redeg y busnes glanhau ceir yng Nghaerffili.

Fe gafodd yr asiantaeth gymorth gan Heddlu Gwent wrth iddyn nhw fonitro gweithgaredd y ddau a chasglu tystiolaeth i'w herlyn.

Llwyddodd yr asiantaeth i olrhain y smyglwyr wedi i rywrai roi gwybodaeth hanfodol iddyn nhw, a recordio rhai o'u sgyrsiau ffôn heb yn wybod iddyn nhw.

Dywed Cyllid a Thollau EM (CThEM) bod bancio Hawala yn ddeniadol iawn i droseddwyr gan eu bod yn gallu symud arian i systemau trosglwyddo eraill yn rhwydd.

Er bod yr NCA a CThEM yn dwysáu eu hymdrechion i frwydro yn erbyn systemau ariannol anffurfiol, gan gynnwys bancio Hawala, i ariannu troseddau cyfundrefnol fel smyglo pobl, gallant fod yn systemau astrus i'w olrhain, meddent.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now