Derek Evans o Fôn yn ennill Tlws John a Ceridwen Hughes 2026

Cafodd y wobr ei rhoi iddo ddydd Sadwrn yn Eisteddfod Sir Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Derek Evans o Lannerch-y-medd, Ynys Môn, ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled eleni.
Cafodd y wobr ei rhoi iddo ddydd Sadwrn yn Eisteddfod Sir Ynys Môn, oedd yn cael ei chynnal yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.
Derbyniodd Derek y wobr am wirfoddoli'n gyson gyda'r Urdd yn Ynys Môn a thu hwnt ers bron i 50 mlynedd.
Caiff y tlws ei wobrwyo gan yr Urdd yn flynyddol i wirfoddolwyr arbennig sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.
'Cefnogwr mwyaf Ynys Môn'
Mae'r tlws yn cael ei roi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid.
Dechreuodd Derek fel ysgrifennydd pwyllgor i Gylch Caergybi yn 1975, cyn ymuno fel aelod o bwyllgor y rhanbarth ac mae wedi cadeirio'r pwyllgor am dros 30 mlynedd.
Mae hefyd wedi bod yn trefnu, arwain a chefnogi digwyddiadau yn ei gymuned.
Cyhoeddi enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes 2025
- Cyhoeddwyd12 Mai 2025
Menna Williams yw enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2024
Tlws John a Ceridwen Hughes i Sioned Page-Jones
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2023
Dywedodd Elliw Mai Hughes, aelod o Fforwm Ieuenctid Ynys Môn: "Fydda'r cyfleoedd i bobl ifanc ddim yn bodoli heb gefnogwyr.
"Y cefnogwr mwyaf sydd gan Ynys Môn yw Derek.
"Dyma ddyn sy'n rhoi yn ddiddiwedd yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc Môn. 'Sa fy mhrofiadau i ar yr ynys ddim yr un peth heb gyfraniadau Derek," meddai.
Bu Derek yn aelod o'r criw wnaeth ail-sefydlu Aelwyd yr Ynys yn ôl yn 2004, cyn i Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal yno.
Mae wedi chwarae rhan flaenllaw hefyd wrth drefnu amrywiaeth o weithgareddau i bobl ifanc yn yr ardal.

Mae Derek Evans wedi gwirfoddoli'n gyson gyda'r Urdd yn Ynys Môn a thu hwnt ers bron i 50 mlynedd
Yn ôl Eryl Williams, sy'n rheolwr cymunedol ar y gogledd a'r canolbarth i'r Urdd, "mi allech ddweud mai Derek ydy 'Mistar Urdd Ynys Môn".
"Dyw Derek byth yn methu Eisteddfodau Rhanbarth Ynys Môn, ble mae'n brysur yn sicrhau bod trefniadau'r dydd yn rhedeg yn esmwyth a bod llwyfan teg i bob cystadleuydd.
"Yn lleol mae wedi cefnogi Uwch Adran Rhosmeirch, ac yn flynyddol mae'n gwirfoddoli gyda chystadlaethau celf yr Eisteddfod.
"Mae Derek hefyd yn wyneb cyfarwydd yng ngwersylloedd yr Urdd, gan iddo drefnu degau o deithiau er mwyn sicrhau bod plant ei ardal yn cael y cyfle i brofi awyrgylch byrlymus y gwersylloedd.
"Mae'n hen law ar drefnu, arwain a chefnogi digwyddiadau yn ei gymuned, ac yn ffigwr hynod boblogaidd yn ei ardal - yn enwedig ymysg y plant a'r bobl ifanc.
"Yn ei grynswth, mae ei gyfraniad yn enghraifft o wir wasanaeth gwirfoddol - cyson, ymarferol ac yn llwyr ymroddedig i ddatblygiad plant a phobl ifanc drwy'r Gymraeg a diwylliant yr Urdd," meddai Mr Williams.
'Gwaith diflino'
Ychwanegodd Llio Maddocks, cyfarwyddwr celfyddydol yr Urdd fod Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled yn "wobr arbennig iawn ac mae Derek yn ei llawn haeddu eleni".
"Fyddai'r Eisteddfod ddim yn bodoli heb waith diflino ein gwirfoddolwr ar lawr gwlad ac rydym yn hynod o ddiolchgar o'r gwaith mae pobl fel Derek yn ei wneud dros yr Urdd ar hyd a lled y wlad."
Alun Williams, un o gyflwynwyr rhaglen Eisteddfod yr Urdd S4C, gyhoeddodd y newyddion heb ragrybudd i Derek yn ystod Eisteddfod Rhanbarth Ynys Môn.
Bydd Derek yn cael ei anrhydeddu'n swyddogol mewn seremoni ar Faes Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.